'Cynllun Arbed Ynni Powys Cymru Gynnes' Rolau a Chyfrifoldebau
Rhwymedigaeth Cwmni Ynni 4 (ECO4)
Cynllun effeithlonrwydd ynni Llywodraeth y DU ar gyfer Prydain Fawr yw'r Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO). Mae bellach yn ei bedwaredd fersiwn. Mae ECO '4' yn gynllun pedair blynedd, a bwriedir iddo redeg o 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2026. Amcangyfrifir bod ei werth oddeutu £4 biliwn dros oes y rhaglen.
Mae ECO yn ardoll a osodir gan lywodraeth y DU ar gwmnïau cyflenwi ynni canolig a mawr sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt wario'r arian hwn ar leihau biliau ynni trigolion nad ydynt efallai'n gallu ariannu'r gwelliannau hyn eu hunain. Mae hyn yn cynnwys camau sy'n arwain at lai o ddefnydd o ynni, megis gosod inswleiddio neu uwchraddio'u system wresogi. Rhennir y targed cyffredinol ar gyfer y mesurau hyn rhwng cyflenwyr yn seiliedig ar eu cyfran gymharol o'r farchnad nwy a thrydan domestig. Am fwy o wybodaeth am ECO, gweler https://www.gov.uk/government/publications/the-energy-company-obligation-find-out-if-you-are-eligible
OFGEM
Mae'r Swyddfa Marchnadoedd Nwy a Thrydan (OFGEM) yn rheoleiddio'r cwmnïau monopoli sy'n rhedeg y rhwydweithiau nwy a thrydan. Hi sy'n llunio penderfyniadau ar reolaethau a gorfodi prisiau, gan weithredu er budd defnyddwyr, yn enwedig pobl fregus, trwy sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg ac yn elwa o amgylchedd glanach, gwyrddach. O dan ECO4, mae Llywodraeth y DU wedi penodi OFGEM yn weinyddwr y cynllun. Ar gyfer ymholiadau neu gwynion gweler: https://www.ofgem.gov.uk/eco4-complaints-process
TrustMark
Menter gymdeithasol ddielw yw TrustMark a dyma'r unig Gynllun Ansawdd a Gymeradwywyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer gwelliannau a wneir yn y cartref ac o'i gwmpas. O dan ECO4, rhaidi gontractwyr fod wedi'u cofrestru a'u cymeradwyo gan TrustMark. Rhaid ymgymryd â gwaith o dan ECO4 i'r safon Manyleb ar gael i'r Cyhoedd 2035 (PAS2035) fel y nodir gan Lywodraeth y DU. Pe bai anghydfod yn codi rhwng perchennog y cartref a'r contractwr sy'n cyflwyno mesurau a ariennir gan ECO, yna TrustMark yw'r pwynt galw cyntaf i helpu i ddatrys y mater. Am fwy o wybodaeth ewch i: https://www.trustmark.org.uk/homeowner/information-and-guidance/if-things-go-wrong
Cymru Gynnes
Cwmni Budd Cymunedol yw Cymru Gynnes sy'n arbenigo mewn helpu i leihau tlodi tanwydd drwy ddarparu rhaglenni cynhesrwydd fforddiadwy. O dan yr ECO4, mae Cymru Gynnes yn gweinyddu ceisiadau gan ddeiliaid tai, yn gwirio'u cymhwysedd ac yn eu hatgyfeirio i gontractwyr a gymeradwywyd gan TrustMark sy'n gweithredu yn yr ardal. Am fwy o wybodaeth ewch i: https://www.warmwales.org.uk/eco/
Awdurdod Lleol
Ym Mhowys, mae'r Awdurdod Lleol (ALl) wedi cyhoeddi 'Datganiad o Fwriad' (SOI) fel y'i nodir gan OFGEM ar gyfer ECO4 - gweler yma: Benthyciadau Gwella Cartrefi a Chymorth Ariannol
Trwy ychwanegu dull 'hyblyg' wrth ymdrin ag ECO, ehangir meini prawf cymhwysedd aelwydydd i gynnwys elfennau o dlodi tanwydd a salwch. Gelwir hyn yn ECO4-Flex. Mae rôl a chyfrifoldeb yr ALl o dan ECO4 wedi'u cyfyngu i ail adolygiad croeswirio o asesiad Cymru Gynnes bod deiliad y tŷ yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd a nodir yn yr SOI a chyhoeddi 'datganiad' i OFEGM.
Nid yw'r ALl yn gyfrifol am grefftwaith, nac am ddarparu gwasanaeth datrys rhwng deiliad y tŷ a'r contractwyr.
Perchennog
Cyfrifoldeb y deiliad tŷ yw sicrhau bod ceisiadau am gyllid ECO yn wir ac yn gywir yn unol â'r meini prawf cymhwysedd. Dylai'r perchennog/landlord fodloni ei hun bod yr holl ganiatadau angenrheidiol yn weithredol cyn dechrau'r gwaith. Anghydfod rhwng perchennog y cartref a'r contractwr ECO sydd wedi'i gyflogi fydd unrhyw anghydfod sy'n deillio o hyn. Felly, gan berchennog y cartref y mae'r cyfrifoldeb am safon crefftwaith a wneir yn y cartref o hyd, oni bai bod y ddyletswydd honno'n cael ei rhyddhau i drydydd parti fel syrfëwr neu Bensaer. Byddai hwn yn drefniant preifat nad yw'n cael ei ariannu o dan ECO. Am fwy o wybodaeth am ECO4 gweler: https://www.gov.uk/government/consultations/design-of-the-energy-company-obligation-eco4-2022-2026