Toglo gwelededd dewislen symudol

Angen Gwestywyr Llety â Chymorth

Image of a young person listening to music

9 Awst 2023

Image of a young person listening to music
Mae'r cyngor yn annog trigolion Powys a allai helpu i lunio a chefnogi bywyd person ifanc i ystyried dod yn westywyr fel rhan o raglen bwysig.

Mae Cyngor Sir Powys angen gwestywyr llety â chymorth ar frys i ddarparu ystafell sbâr ac i arwain a mentora pobl ifanc ym Mhowys rhwng 16 a 25 oed, sydd wedi bod mewn gofal maeth o'r blaen neu mewn perygl o ddod yn ddigartref.

Bydd unrhyw un sy'n dod yn westywr llety â chymorth yn derbyn gwobr ariannol, hyfforddiant a chymorth ochr yn ochr â chael boddhad o wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc a allai wynebu digartrefedd fel arall.

Dywedodd y Cynghorydd Sandra Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: "Mae llety â chymorth yn darparu rôl hanfodol ym mywydau llawer o bobl ifanc ac yn eu helpu i ennill annibyniaeth.

"Os ydych chi'n meddwl bod gennych chi'r sgiliau a'r lle i ddarparu llety â chymorth yma ym Mhowys, rydyn ni eisiau clywed gennych chi.

"Trwy ddod yn westeiwr llety â chymorth byddwch yn ychwanegu cyfraniad sylweddol i fywyd person ifanc, gyda'ch cymorth parhaus, yn ogystal â chreu ymdeimlad o berthyn, er mwyn iddynt fagu hyder a sgiliau bywyd pwysig ar gyfer eu dyfodol.

"Cysylltwch â'n tîm os hoffech fanteisio ar y cyfle gwerth chweil hwn."

Am fwy o wybodaeth ac i wneud cais nawr cysylltwch â'r tîm ar 01597 827325 neu e-bostiwch supported.lodgings@powys.gov.uk

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu