Angen barn ar fesurau diogelwch oedd ar waith yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru
14 Awst 2023
Mae preswylwyr Llanfair-ym-Muallt ac ymwelwyr â Sioe Frenhinol Cymru y mis diwethaf yn cael eu hannog i gymryd rhan yn yr arolwg, a rhannu'u barn ar y mesurau diogelwch a oedd ar waith.
Rhoddwyd y mesurau diogelwch ar waith gan Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym- Muallt, sy'n cynnal yr arolwg. Ffurfiwyd y grŵp yn 2017, a Chyngor Sir Powys sy'n ei arwain.
Ymhlith y mesurau a oedd ar waith eleni roedd:
- Llwybr cerdded diogel o'r enw y Llwybr Gwyrdd
- Canolfan feddygol a llesiant, o'r enw y Man Cymorth, a oedd yn cael ei rhedeg gan St John's Cymru o Neuadd y Strand.
- Man Cymorth 'Sydyn' a oedd yn darparu canllawiau a chymorth lles, a oedd yn cael ei redeg gan Wasanaethau Ieuenctid Cyngor Sir Powys o'r Groe
- Cymorth lles wedi'i ddarparu gan Fugeiliaid y Stryd a Gweithwyr Ieuenctid min nos
- Blychau amnest cyffuriau wedi'u gosod ar y llwybrau i leoliadau yn Llanfair-ym-Muallt a'r ardal gyfagos
- Ymgyrch yn annog ymwelwyr i yfed ac ymddwyn yn gyfrifol
Dywedodd y Cyng Richard Church, Aelod Portffolio Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Fwy Diogel: "Mae Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt wedi defnyddio'u profiad a'u gwybodaeth ac wedi rhoi mesurau ar waith i gadw ymwelwyr a thrigolion yn ddiogel gydol wythnos Sioe Frenhinol Cymru.
"Rydym yn awyddus i geisio barn preswylwyr Llanfair-ym-Muallt ac ymwelwyr â Sioe Frenhinol Cymru ar y mesurau diogelwch hyn.
"Bydd yr adborth gan breswylwyr ac ymwelwyr yn hanfodol, gan fod y grŵp yn adolygu'r mesurau i weld a oes modd gwneud unrhyw beth yn wahanol yn ystod sioeau'r dyfodol."
I gymryd rhan yn yr arolwg, ewch i www.dweudeichdweudpowys.cymru/mesurau-diogelwch-wythnos-sioe-frenhinol-cymru-2023, a fydd yn cau ddydd Mercher 6 Medi 2023.
Bydd trigolion Llanfair-ym-Muallt nad ydynt yn gallu llenwi'r arolwg ar-lein yn gallu ymweld â llyfrgell y dref yn Antur Gwy lle bydd staff y llyfrgell yn cynnig eu helpu gyda'r arolwg ar-lein.