Toglo gwelededd dewislen symudol

Angen barn ar fesurau diogelwch oedd ar waith yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru

Builth Wells Events Safety Group

14 Awst 2023

Builth Wells Events Safety Group
Lansiwyd arolwg am y mesurau diogelwch a oedd ar waith yn ystod Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd eleni.

Mae preswylwyr Llanfair-ym-Muallt ac ymwelwyr â Sioe Frenhinol Cymru y mis diwethaf yn cael eu hannog i gymryd rhan yn yr arolwg, a rhannu'u barn ar y mesurau diogelwch a oedd ar waith.

Rhoddwyd y mesurau diogelwch ar waith gan Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym- Muallt, sy'n cynnal yr arolwg. Ffurfiwyd y grŵp yn 2017, a Chyngor Sir Powys sy'n ei arwain.

Ymhlith y mesurau a oedd ar waith eleni roedd:

  • Llwybr cerdded diogel o'r enw y Llwybr Gwyrdd
  • Canolfan feddygol a llesiant, o'r enw y Man Cymorth, a oedd yn cael ei rhedeg gan St John's Cymru o Neuadd y Strand.
  • Man Cymorth 'Sydyn' a oedd yn darparu canllawiau a chymorth lles, a oedd yn cael ei redeg gan Wasanaethau Ieuenctid Cyngor Sir Powys o'r Groe
  • Cymorth lles wedi'i ddarparu gan Fugeiliaid y Stryd a Gweithwyr Ieuenctid min nos
  • Blychau amnest cyffuriau wedi'u gosod ar y llwybrau i leoliadau yn Llanfair-ym-Muallt a'r ardal gyfagos
  • Ymgyrch yn annog ymwelwyr i yfed ac ymddwyn yn gyfrifol

Dywedodd y Cyng Richard Church, Aelod Portffolio Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Fwy Diogel: "Mae Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt wedi defnyddio'u profiad a'u gwybodaeth ac wedi rhoi mesurau ar waith i gadw ymwelwyr a thrigolion yn ddiogel gydol wythnos Sioe Frenhinol Cymru.

"Rydym yn awyddus i geisio barn preswylwyr Llanfair-ym-Muallt ac ymwelwyr â Sioe Frenhinol Cymru ar y mesurau diogelwch hyn.

"Bydd yr adborth gan breswylwyr ac ymwelwyr yn hanfodol, gan fod y grŵp yn adolygu'r mesurau i weld a oes modd gwneud unrhyw beth yn wahanol yn ystod sioeau'r dyfodol."

I gymryd rhan yn yr arolwg, ewch i www.dweudeichdweudpowys.cymru/mesurau-diogelwch-wythnos-sioe-frenhinol-cymru-2023, a fydd yn cau ddydd Mercher 6 Medi 2023.

Bydd trigolion Llanfair-ym-Muallt nad ydynt yn gallu llenwi'r arolwg ar-lein yn gallu ymweld â llyfrgell y dref yn Antur Gwy lle bydd staff y llyfrgell yn cynnig eu helpu gyda'r arolwg ar-lein.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu