Gyrrwch yn ddiogel ar ffyrdd Powys
14 Awst 2023
Er mwyn annog gyrwyr i arafu, i ufuddhau i hysbysiadau traffig dros dro ac i barchu staff sy'n gweithio ar y ffyrdd, bydd Cyngor Sir Powys yn ymgyrchu yn ystod wythnos 14-20 Awst i dynnu sylw at y risgiau y mae'n rhaid i'r timau priffyrdd eu hwynebu bob dydd, gyda staff yn rhannu eu profiadau o sefyllfaoedd peryglus sy'n cael eu hachosi gan yrru anystyriol.
Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet Powys Wyrddach: "Cefais fy syfrdanu o glywed am y sefyllfaoedd y mae ein timau priffyrdd yn eu hwynebu dim ond wrth wneud eu gwaith i sicrhau bod y miloedd o filltiroedd o ffyrdd ym Mhowys yn cael eu cynnal, eu hatgyweirio a'u gwella.
"Mae nifer y 'damweiniau agos' y mae ein timau yn dod ar eu traws yn sgil esgeulustod rhai gyrwyr yn gwbl annerbyniol. Mae ein timau priffyrdd angen eich help i gadw'n ddiogel, felly gyrrwch yn ofalus er mwyn iddynt allu cyrraedd adref yn ddiogel at eu teuluoedd.
"Rydym am annog pob gyrrwr i ystyried diogelwch ein timau priffyrdd pan fyddant allan ar y ffyrdd wrth eu gwaith. Rydym yn deall y gall gwaith ffordd fod destun rhwystredigaeth, ond nid yw hynny'n esgus i anufuddhau i rybuddion traffig, anwybyddu goleuadau coch na bod yn anghwrtais tuag at y gweithwyr.
"Mae diogelwch ein staff yn hollbwysig, ac mae'n rhaid atal yr arfer o yrru'n beryglus trwy waith ffordd."
Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am drafferthion ein timau priffyrdd yn ystod yr wythnos, drwy ddilyn tudalennau cyfryngau cymdeithasol y cyngor: