Galw artistiaid ar gyfer arddangosfa yn Aberhonddu
24 Awst 2023
Wrth baratoi ar gyfer arddangosfa dros dro nes ymlaen yn y flwyddyn, mae Amgueddfa, Oriel Gelf a Llyfrgell y Gaer, yn Aberhonddu yn chwilio am artistiaid i gyflwyno darnau gwaith, i'w harddangos ochr yn ochr â gweithiau o'i chasgliad ei hun.
Cyn cyflwyno gwaith, gofynnir ichi sicrhau fod y gwaith yn cydymffurfio â'r canllawiau canlynol:
- Gall gweithiau celf fod mewn cyfryngau cymysg, ond dylai'r prif ddeunyddiau fod yn bensil a/neu inc.
- Dylai darnau gael eu fframio gyda haen drych.
Dywed y Cyng David Selby, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys fwy Llewyrchus: "Os taw artist ydych sy'n byw yn y sir, gofynnir ichi ystyried cyflwyno darn ar gyfer yr arddangosfa hon. Byddai'n wych cael ystod o ddarnau lleol yn arddangosfa'r Gaer i drigolion ac ymwelwyr eu mwynhau, ond hefyd i hyrwyddo'r doniau sy'n bodoli yma ym Mhowys.
"Bydd yr arddangosfa hon yn gyfle i artistiaid lleol, rhai hysbys ac anhysbys, ddangos a chyflwyno eu gwaith yn y lleoliad poblogaidd hwn."
Bydd y gwaith a gyflwynir yn mynd trwy broses dethol i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer yr arddangosfa, felly nid yw'n bosibl gwarantu y caiff pob darn ei arddangos.
Bydd y gweithiau celf a ddewisir yn cael eu harddangos am gyfnod o bedwar mis rhwng Rhagfyr 2023 ac Ebrill 2024, felly mae'n rhaid i'r artistiaid fod yn fodlon rhoi benthyg eu gwaith ac iddo gael ei arddangos yn ystod y cyfnod hwn. Y dyddiad olaf i gyflwyno darnau gwaith yw dydd Mawrth, 3 Hydref.
Fel rhan o'r arddangosfa, bydd label yn dangos manylion yr artist, y teitl a dolen cyfryngau cymdeithasol lle bo'n berthnasol.
Am ragor o wybodaeth, croeso ichi gysylltu ag: ygaer@powys.gov.uk gan nodi eich neges at sylw'r Curadur Cynorthwyol.
LLUN: Un o'r darnau o gasgliad y Gaer: 'A View of Brecknock on the River Usk', gan Syr Richard Colt-Hoare, 1793. Golch pen ac inc, fydd ymhlith y darnau yn yr arddangosfa.