Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ebost Fy Nghyfrif Powys

Rhyddhad rhag Trethi Busnes, Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch - dal amser i ymgeisio

Image of new British money

4 Medi 2023

Image of new British money
Mae dal amser i fusnesau Powys yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch wneud cais am gynllun rhyddhad rhag trethi, sy'n golygu y bydd gostyngiad yn eu bil trethi busnes, yn ôl y cyngor sir.

Mae 925 o fusnesau yn y sir wedi derbyn rhyddhad o 75% trwy'r cynllun Rhyddhad rhag Trethi Busnes, Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24, sy'n cael ei weinyddu gan Gyngor Sir Powys, sydd wedi lleihau eu biliau trethi busnes gan £4.4m.

Mae nifer fach o fusnesau cymwys heb wneud cais am y rhyddhad eto, ac mae'r cyngor yn eu hannog i gyflwyno eu cais ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.

Mae'r cynllun, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, sy'n cefnogi busnesau Powys i adfer yn sgil effaith y pandemig, a'r heriau economaidd sy'n parhau, gan gynnwys cyfraddau chwyddiant uchel, yn cynnig gostyngiad o 75% i fusnesau cymwys meddianedig, ar y bil trethi busnes ar gyfer eiddo.

Bydd y cynllun yn berthnasol i bob trethdalwr cymwys, gyda throthwy rhyddhad ar gyfer pob eiddo busnes hyd at uchafswm o £110,000.

Mae'r cyngor wedi derbyn cyllid o hyd at £4.9m ar ffurf grant gan Lywodraeth Cymru i gyllido'r cynllun.

Mae'n rhaid i'r busnesau fod yn y sectorau manwerthu, hamdden, lletygarwch neu dwristiaeth, er enghraifft siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.

Mae'r cynllun rhyddhad rhag treth ar gael hyd at fis Mawrth 2024. Mae'n rhaid i fusnesau sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd wneud cais ar gyfer y rhyddhad rhag treth.

Dywed y Cyng. David Thomas, Aelod y Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol: "Rwyf wrth fy modd bod dros 900 o fusnesau Powys wedi cael gostyngiad yn eu biliau trethi trwy wneud cais am y rhyddhad rhag treth, a hyd yma dyfarnwyd cyfanswm o ryddhad gwerth £4.4m.

"Mae'r cyfnod hynod anodd a heriol yn parhau ar gyfer busnesau yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch, gyda chyfnod economaidd heriol o hyd wrth geisio adfer yn sgil y pandemig.

"Mae'r cynllun yn cefnogi busnesau yn y sectorau hyn, felly buaswn yn annog unrhyw fusnesau sydd heb wneud cais hyd yn hyn i gyflwyno cais cyn gynted â phosibl."

Mae gwybodaeth bellach am y cynllun, gan gynnwys y ffurflen gais a sut i ymgeisio, ewch i Trethi Busnes: Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2023 / 2024

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu