Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Pedwaredd Alwad am Geisiadau

Bellach, mae'r alwad hon am geisiadau ar gau

Levelling up logo
UK Government Levelling Up logo
Gwnaeth y pedwerydd cyfle i gyflwyno ceisiadau ar gyfer ariannu agor ddydd Llun 2 Hydref 2023 a bydd yn cau am 23:59 ddydd Sul 29 Hydref 2023.

Caiff y bedwaredd alwad ei thargedu at y maes blaenoriaeth buddsoddi canlynol:

1)     Lluosi

Yr holl ymyraethau oddi fewn i Luosi -  Cynllun-Buddsoddi-Rhanbarthol-Canolbarth-Cymru 

Gwybodaeth bwysig

  • Caiff Lluosi ei anelu at oedolion 19 oed a hŷn sydd heb radd C TGAU neu gyfwerth mewn Mathemateg.
  • Mae'r amserlen ar gyfer cyflenwi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn fyr; yn ymarferol, bydd angen cwblhau pob prosiect a chyflwyno hawliadau terfynol erbyn 31 Rhagfyr 2024, er mwyn caniatáu amser ar gyfer cau'r rhaglen.  Gall ymgeiswyr gynnwys elfen o wariant ôl-syllol oddi fewn i'w cais o 1 Ebrill 2023, fel arall, ystyriwch ddyddiad cychwyn nad yw cyn 1 Ionawr 2023.
  • Gan ystyried y cyfnod byr sydd ar gael i'w gyflenwi, bydd y Bartneriaeth Leol yn ceisio cefnogi nifer gymharol fach o brosiectau strategol, mwy.
  • Mae uchafswm y gyllideb sydd ar gael oddi fewn i'r maes blaenoriaeth hwn ar gyfer 2023/24 o gwmpas is £750,000.
  • Mae uchafswm y gyllideb sydd ar gael oddi fewn i'r maes blaenoriaeth hwn ar gyfer 2023/24 o gwmpas is £850,000  Caiff gwariant ar gyfer 2024-25 ei gymeradwyo o ran egwyddor. Bydd hyn yn ddibynnol ar Lywodraeth DU yn cymeradwyo dyraniad ariannol Cyngor Sir Powys ar gyfer 2024-25 na fydd yn cael ei gadarnhau tan y flwyddyn ariannol nesaf.
  • Mae UKSPF yn gronfa refeniw yn bennaf, fodd bynnag gall elfennau o gyfalaf gael eu cynnwys oddi fewn i wariant y prosiect. Gall ymgeiswyr ddewis cyflwyno prosiectau refeniw yn unig neu brosiectau sy'n ceisio cyfuno'r ddau beth.
  • Bydd gweithredu yn unol â threfn rheoli cymhorthdal newydd y DU a ddechreuodd ar 4 Ionawr 2023, yn ofyniad allweddol ar gyfer unrhyw brosiect. Dylai pob ymgeisydd ymgyfarwyddo â gofynion y gyfundrefn: https://www.gov.uk/government/collections/subsidy-control-regime
  • O ystyried yr amgylchiadau cyfyngedig ar gyfer cyflenwi'r UKSPF, bydd hyder yn y modd y cyflenwir cynigion a gyflwynwyd yn ystyriaeth allweddol i'r Bartneriaeth Leol ochr yn ochr â chapasiti a gallu sefydliadau sy'n ymgeisio.
  • Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr fanylu ar sut fydd y gweithgaredd arfaethedig yn alinio a chefnogi strategaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol eraill. Gweler tudalen 29 Cynllun Buddsoddi Canolbarth Cymru am esiamplau.
  • Wrth gyflwyno cais, byddwch yn awdurdodi'r awdurdod/awdurdodau lleol i wneud yr ymholiadau angenrheidiol i wirio unrhyw wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gweinyddu rhaglen UKSPF.
  • Mae proses ymgeisio un cam.  Derbynnir ceisiadau o02/10/2023 tan 23.59pm ar 29/10/2023.  Bydd ceisiadau wedi'u cwblhau yn cael eu harfarnu gan Dîm Cyflawni Lleol Powys a Phartneriaeth Leol Cronfa Ffyniant a Rennir Powys. 
  • Ewch i Sut i Ymgeisio i lawrlwytho'r ffurflen gais a chanllawiau.
  • Dylid anfon ffurflenni cais wedi'u cwblhau ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys drwy e-bost i ukspf@powys.gov.uk erbyn y dyddiad cau. 
  • Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynglŷn â'ch cais i'r e-bost ukspf@powys.gov.uk
  • Bydd ceisiadau rhanbarthol yn cael eu hystyried; cysylltwch â'r tîm drwy e-bostio ukspf@powys.gov.uk i drafod gofynion.
  • Cynhaliwyd gweminar ddydd Llun 2ail Hydref er mwyn rhannu rhagor o wybodaeth ynghylch yr Alwad Agored ar gyfer y Rhaglen Lluosi. Gellir gwylio Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Lluosi Sesiwn Gwybodaeth (PDF) [1MB] neu gellir gwrando ar recordiad o'r weminar trwy glicio'r ddolen hon:Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Tyfu Canolbarth Cymru

  • Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Cwestiynau Cyffredin (PDF) [106KB]

Bydd cyfleoedd yn y dyfodol yn cael eu rhannu ar y wefan hon, drwy ddatganiad i'r wasg a thrwy ein rhestr bostio.  Cysylltwch â Thîm Cyflenwi Lleol Powys drwy e-bostio ukspf@powys.gov.uk, os ydych yn dymuno cael eich ychwanegu at ein rhestr bostio.