Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Agoriad swyddogol o ddatblygiad tai cyngor newydd yn y Drenewydd

Image of people at the official opening of the council housing development that has been built on the former Red Dragon public house and Maesyrhandir Youth Centre in Newtown.

25 Medi 2023

Image of people at the official opening of the council housing development that has been built on the former Red Dragon public house and Maesyrhandir Youth Centre in Newtown.
Mae 18 o gartrefi sydd wedi cael eu hadeiladu fel rhan o ddatblygiad tai gwerth £3.5m yn y Drenewydd wedi cael ei agor yn swyddogol.

Cafodd y datblygiad newydd ei gomisiynu a'i gwblhau gan Gyngor Sir Powys ar safle hen dafarn y Ddraig Goch a safle Canolfan Ieuenctid Maesyrhandir yn y dref, gan gynnwys amrywiaeth o gartrefi dwy, tair a phedair ystafell wely.  Mae dau bwynt mynediad i'r datblygiad a elwir yn Clos Y Ddraig Goch a Chwrt Y Dryw.

Darparwyd £2.4m tuag at y prosiect gan Lywodraeth Cymru drwy ei Rhaglen Tai Arloesol.

Bydd yr holl eiddo'n cael ei osod ar gontractau diogel, gan roi cyfle gwirioneddol i denantiaid wneud yr anheddau eco-gyfeillgar ac sydd wedi'u hinsiwleiddio dda yn 'gartrefi am byth'.  Bydd y rhenti ymhlith yr isaf ym Mhowys, gan helpu pobl i reoli'r heriau costau byw y mae llawer bellach yn eu hwynebu.

Fel rhan o'r agoriad swyddogol a gafodd ei gynnal ddydd Mercher, 20 Medi, tywyswyd gwesteion o amgylch y datblygiad newydd.  Roedd y gwesteion yn cynnwys cynrychiolwyr Cyngor Sir Powys a'i Banel Craffu ar Denantiaid yn ogystal â Chyngor Dref y Drenewydd a Llanllwchaearn.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Mae hwn yn ddatblygiad gwych sy'n ein helpu i ddarparu cartrefi cost isel ychwanegol sydd eu hangen yn fawr ar gyfer trigolion Powys.

"Rwy'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y cyllid a ddarparwyd ac am y gwaith gan Dîm Datblygu Tai y cyngor i gyflawni'r prosiect hwn o ansawdd uchel.

"Mynd i'r afael â'r argyfwng tai ym Mhowys yw fy mhrif flaenoriaeth. Mae'r datblygiad cyffrous hwn wedi darparu cartrefi ecogyfeillgar, wedi'u hinswleiddio'n dda ar gyfer rhent cymdeithasol sy'n ein galluogi i adeiladu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach i'r gymuned hon."

Mae'r anheddau ecogyfeillgar ac wedi'u hinsiwleddio'n dda yn cynnwys un byngalo tair ystafell wely, 11 tŷ dwy ystafell wely, tri thŷ tair ystafell wely, dau dŷ pedair ystafell wely ac un tŷ pum ystafell wely.

Defnyddiwyd dull 'ffabrig yn gyntaf' fel rhan o'r gwaith adeiladu i sicrhau bod y cartrefi wedi'u hinswleiddio'n dda ac yn defnyddio deunyddiau sydd â rhinweddau mwy ecogyfeillgar na'r hyn a gynigir gan fathau traddodiadol o adeiladu.

Adeiladwyd yr anheddau gan ddefnyddio ffrâm bren, inswleiddio ffibr pren ar y waliau, croen allanol brics a thoeau llechi. Darperir gwres a dŵr poeth trwy bympiau gwres ffynhonnell aer, sy'n llawer gwell i'r amgylchedd na gwresogi nwy.

Er mwyn mynd i'r afael â'r materion ecolegol yn gysylltiedig â'r datblygiad, gosodwyd system ddraenio trefol gynaliadwy yn ogystal â 'llofft ystlumod' ar gyfer ystlumod sy'n clwydo ac sydd i'w gweld yn y lleoliad hwn.

Mae'r cartrefi, sy'n eiddo i'r cyngor ac yn cael eu rheoli ganddynt, yn cael eu dyrannu i denantiaid drwy 'Cartrefi ym Mhowys' - y siop un stop ar gyfer holl dai cymdeithasol y sir.

Mae 'Cartrefi ym Mhowys' yn caniatáu i unrhyw un sy'n chwilio am gartref gwirioneddol fforddiadwy a diogel wneud un cais ac yna cael ei ystyried gan y cyngor ac wyth cymdeithas dai am le newydd i fyw ynddo. Gallwch ddarganfod mwy am y Cynllun Dyrannu Cyffredin a gwneud cais am dai cymdeithasol yma Gwneud cais am dŷ cymdeithasol