Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cynlluniau Uchelgeisiol ar gyfer Trawsnewid Addysg yn symud ymlaen

Image of a primary school classroom

26 Medi 2023

Image of a primary school classroom
Mae'r cyngor sir wedi dweud bod cynlluniau uchelgeisiol a allai drawsnewid addysg yn ardaloedd gogledd Powys, gan gynnwys hybu addysg Cyfrwng Cymraeg, wedi cymryd cam ymlaen ar ôl cael y golau gwyrdd gan y Cabinet.

Mae Cyngor Sir Powys am barhau i gyflenwi'r don nesaf o'i Raglen Trawsnewid Addysg, a gafodd ei ail-lansio'r llynedd ynghyd â diweddariad o weledigaeth o Strategaeth y cyngor ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys.

Mae'r cynlluniau diweddaraf yn cadarnhau uchelgais y cyngor i drawsnewid y sector addysg ym Mhowys, sy'n cynnwys y datblygiad arloesol y bu hir-aros amdano, sef darpariaeth uwchradd benodedig Cyfrwng Cymraeg i wasanaethau disgyblion yng Ngogledd-Ddwyrain Powys yn ogystal â datblygu rhagor o ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg yn y sector cynradd.

Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys adeiladu ysgolion newydd i gymryd lle hen adeiladau ysgolion, a fyddai'n galluogi plant a phobl ifanc i ddysgu mewn cyfleusterau modern gan gyflawni sero net a chynnwys cyfleusterau y blynyddoedd cynnar a chymunedol. Gallai rhai ysgolion gael eu cyfuno a gallai eraill gau fel rhan o'r cynigion.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Yr unig ffordd y gallwn adeiladu Powys Gryfach, Decach a Gwyrddach yw drwy sicrhau'r dechrau gorau mewn bywyd i'n pobl ifanc. Un o'r ffyrdd o gyflawni hynny yw drwy drawsnewid addysg.

"Byddai'r cynigion hyn yn gweld y cyngor yn darparu darpariaeth wedi ei chynllunio'n dda ar gyfer cynyddu cyfleoedd nifer cynyddol o blant a phobl ifanc i ddyfod yn gwbl ddwyieithog a rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg wrth gyflenwi cyfleusterau 21 Ganrif a fyddai'n darparu amgylchedd ble mae dysgwyr ac athrawon yn cyflawni eu potensial.

"Rwyf o'r farn bod y cynigion hyn yn bodloni nodau Strategaeth Trawsnewid Addysg ym Mhowys ac yn gweithredu'r ymrwymiadau yn ein Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg, a fydd yn ein galluogi ni i wneud cynnydd da yn erbyn ein targed o gynyddu'r nifer o ddisgyblion sy'n cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg."

Mae'r cynlluniau a gafodd eu hystyried gan y Cabinet heddiw (ddydd Mawrth, 26 Medi) fel a ganlyn:

  • Symud Ysgol Bro Caereinion ar hyd y continwwm ieithyddol i ddyfod yn ysgol cyfrwng Cymraeg.
  • Y ffordd ymlaen a ffefrir ar gyfer aildrefnu addysg yn ardal Llanfyllin / Gogledd Y Trallwng.

Ysgol Bro Caereinion

Symud Ysgol Bro Caereinion ar hyd y continwwm ieithyddol a newid ei darpariaeth ieithyddol fel ei bod, yn y pen draw, yn dod i fod yn lleoliad addysg cyfrwng Cymraeg a fyddai'n galluogi'r holl ddysgwyr i ddatblygu eu sgiliau ieithyddol a dyfod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan ddarparu cyfoeth o gyfleodd ar hyd eu llwybrau yn y dyfodol.

Byddai'r newid arfaethedig yn cael ei gyflwyno gam wrth gam, flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan ddechrau gyda Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 7 ym mis Medi 2025. Byddai cymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu i ddisgyblion nad ydynt eto yn y ffrwd Gymraeg ar ffurf cymorth 'Trochi' yn y Gymraeg, rhywbeth y mae'r cyngor wedi bod yn llwyddiannus wrth ei gyflenwi yn y sir.

Dalgylch Llanfyllin / Gogledd Y Trallwng

Byddai'r ffordd ymlaen a ffefrir ar gyfer trawsnewid addysg yn nalgylch Llanfyllin / Gogledd Y Trallwng yn cynnwys buddsoddi cyfalaf i adeiladu tair ysgol newydd gan gefnogi ysgolion i symud ar hyd y continwwm ieithyddol i wella'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae'n bosibl y gallai rhai ysgolion gyfuno ac eraill gau fel rhan o'r ffordd ymlaen a ffefrir. Y tair ysgol a allai gau yw Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn, Ysgol Bro Cynllaith ac Ysgol Gynradd Gymunedol Brynhafren.

"Bydd yr holl newidiadau yn amodol ar broses statudol aildrefnu ysgolion sy'n cynnwys ymgynghoriad ag ysgolion yn eu cymunedau, cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud," dywedodd y Cynghorydd Roberts.

Er mwyn darganfod rhagor am addysg Cyfrwng Cymraeg ym Mhowys ewch i https://cy.powys.gov.uk/ysgolion a chlicio ar Cyrchfan Dwyieithog.

I ddarllen diweddariad Strategaeth Trawsnewid Addysg 2020-2032 a manylion am y Rhaglen Trawsnewid Addysg - Ton 2 (2022 - 2027) ewch i https://cy.powys.gov.uk/trawsnewidaddysg