Dechrau'n Deg a safle gofal plant newydd ar gyfer Aberhonddu bellach ar agor
29 Medi 2023
Bydd y lleoliad newydd, a agorodd ei ddrysau i deuluoedd yn gynharach y mis hwn, yn darparu gofal plant Dechrau'n Deg o ansawdd uchel ar gyfer plant dwy flwydd oed a bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i redeg grwpiau rhianta a hyfforddiant. Yn ogystal â hyn, bydd plant 3 a 4 oed hefyd yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth Dysgu Cyfnod Sylfaen a darpariaeth y Cynnig Gofal Plant o'r safle.
Mae'r adeilad, sydd ar safle Ysgol yr Eglwys yng Nghymru y Priordy, wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o ymrwymiad i ehangu gofal plant am ddim i bob plentyn dwy flwydd oed. Maent wedi darparu grant cyfalaf o £720,000.
Mae gan y lleoliad newydd, sef Meithrinfa Enfys Fach hefyd swyddfa amlasiantaeth fach ac ystafell gyswllt lle gall gweithwyr proffesiynol fel Ymwelwyr Iechyd a Therapyddion Lleferydd ac Iaith gwrdd â theuluoedd.
Dywedodd Mark Drakeford, a fu'n ymweld â'r safle ddoe (ddydd Iau 28 Medi): "Mae chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar o ansawdd uchel yn bwysig er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn derbyn y dechrau gorau mewn bywyd ac yn mwynhau dysgu, ehangu gwybodaeth a chyflawni potensial.
"Mae Dechrau'n Deg wedi darparu cymorth blynyddoedd cynnar ychwanegol i filoedd o blant ledled Cymru, a dyna pam ry'n ni wedi ymrwymo i ymestyn y rhaglen fel y gall hyd yn oed mwy o blant gael budd ohoni.
"Roedd hi'n wych cael cwrdd â'r plant, y staff a'r teuluoedd, a gweld y gefnogaeth wych yma yn Enfys Fach."
Dywedodd y Cynghorydd Sandra Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Genedlaethau'r Dyfodol: "Roeddem yn falch iawn o groesawu'r Prif Weinidog i'n safle Dechrau'n Deg newydd.
"Mae'r safle newydd yng nghanol y gymuned yn galluogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd i gael mynediad at wasanaethau mewn un lle. Mae'n darparu gofal plant yn ogystal â gofod swyddfa i ymarferwyr allweddol ac mae'n dda gweld y gwasanaethau cymorth cynnar hyn i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i ddiwallu anghenion teuluoedd."
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys, Aelod Cabinet Powys Decach a Chadeirydd Ymddiriedolwyr Meithrinfa Enfys Fach, y Cynghorydd Matthew Dorrance: "Mae'r ganolfan Dechrau'n Deg newydd yn ddatblygiad cyffrous i'n plant a'n teuluoedd lleol. Rwy'n falch iawn bod modd iddynt nawr nawr ddechrau derbyn manteision llawn y buddsoddiad sylweddol hwn."
Agorodd y maes chwarae ar Faes Pendre drws nesaf i ysgol yr Eglwys yng Nghymru y Priordy yn Aberhonddu y llynedd ac mae'n destun mwynhad i blant a theuluoedd lleol. Sicrhawyd cyllid Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru a Chyngor Tref Aberhonddu i gefnogi'r prosiect gofod chwarae.
Mae gan y maes chwarae ardal gaeedig ar gyfer plant 0-4 oed, gydag offer cynhwysol i alluogi plant i ddatblygu eu sgiliau corfforol a'u creadigrwydd. Bydd yr ardal hon hefyd yn gweithredu fel man awyr agored estynedig ar gyfer y lleoliad Dechrau'n Deg sydd newydd agor.
Gall teuluoedd ddarganfod a ydynt yn gymwys i gael gwasanaethau Dechrau'n Deg yma Dechrau'n Deg
Gall teuluoedd ddilyn @Powys Flynig Start/Dechrau'n Deg Powys ar Facebook i ddarllen y negeseuon diweddaraf.