Dechrau'n Deg
Rhaglen i deuluoedd â phlant rhwng 0 a 4 mlwydd oed yw Dechrau'n Deg. Mae wedi'i thargedu at ardaloedd cod post penodol yn y trefi canlynol : Y Trallwng, Y Drenewydd, Ystradgynhlais, Aberhonddu a Llandrindod.
Beth sy'n digwydd yn sgil Dechrau'n Deg?
Mae Dechrau'n Deg yn cynnwys pedair elfen graidd - gofal plant o safon uchel am ddim, cefnogaeth i'r teulu trwy raglenni'r Blynyddoedd Rhyfeddol, cymorth dwys gan yr Ymwelydd Iechyd, a chymorth ar gyfer datblygu iaith yn y blynyddoedd cynnar.
Gofal plant rhan-amser o safon uchel am ddim i blant 2-3 oed
Mae Dechrau'n Deg yn cynnig gofal plant o safon i rieni pob plentyn 2-3 blwydd oed sy'n gymwys am 2 a hanner awr y diwrnod, 5 diwrnod yr wythnos am 39 wythnos. Yn ychwanegol at hyn, dylid cael o leiaf 15 sesiwn o ddarpariaeth ar gyfer y teulu yn ystod y gwyliau ysgol.
Mynediad at Raglenni Rhianta
Dylid cynnig cefnogaeth rhianta ffurfiol o leiaf ar sail flynyddol i bob teulu sydd â phlentyn Dechrau'n Deg. Gall hyn fod mewn grwpiau neu ar sail un i un yn y cartref gyda chyfuniad o gefnogaeth ffurfiol ac anffurfiol gan ddibynnu ar yr angen.
Mwy o wasanaeth gan Ymwelwyr Iechyd
Prif swyddogaeth yr Ymwelydd Iechyd Dechrau'n Deg yw cefnogi'r teulu yn y cartref, gan asesu'r plentyn a'r teulu (o ran perygl uchel, canolig ac isel). Dylai Ymwelwyr Iechyd Dechrau'n Deg asesu'r teuluoedd hynny a nodir fel rhai perygl canolig ac uchel yn barhaus, a gwneud cyfeiriadau priodol.
Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu
Dylai pob teulu o fewn ardal Dechrau'n Deg gael mynediad parhaus at grwp iaith a chwarae priodol. Yn sgil hyn, gellir mabwysiadu dull sydd wedi'i dargedu mwy ar asesu a chyfeirio pan fo tystiolaeth o angen ychwanegol.
Gwaith Allanol
Darperir ychydig o Wasanaethau Cefnogi Teuluoedd Powys mewn partneriaeth rhwng Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf. Er bod teuluoedd o fewn ardaloedd Dechrau'n Deg yn cael cefnogaeth fwy arbenigol a dwys, mae hyn yn golygu y byddai teuluoedd a allai gael budd o gefnogaeth debyg, ond nad ydynt yn byw mewn ardal Dechrau'n Deg, yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau hyn trwy'r Teuluoedd yn Gyntaf.
Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma