Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cabinet i ystyried cynigion Trawsnewid Addysg

Image of a primary school classroom

11 Hydref 2023

Image of a primary school classroom
Mae wedi cael ei gyhoeddi y bydd cynlluniau a allai helpu Cyngor Sir Powys i gyflawni nodau ei Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg yn cael eu hystyried gan y Cabinet yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae'r cyngor yn bwriadu parhau i gyflawni cam nesaf ei Raglen Trawsnewid Addysg, a gafodd ei hail-lansio'r llynedd ynghyd â fersiwn wedi'i diweddaru o'r Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys.

Y cynlluniau diweddaraf, a fydd yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau'r cyngor ddydd Mercher, 17 Hydref a chan y Cabinet ddydd Mawrth, 24 Hydref, yw:

  • Cynlluniau ar gyfer ysgolion y Drenewydd
  • Cynnig i gau Ysgol G.G. Dyffryn Irfon

Cynlluniau ar gyfer ysgolion y Drenewydd

Y cynlluniau sy'n cael eu hystyried gan y cyngor yw cynyddu capasiti adeilad ysgol newydd arfaethedig Ysgol Calon y Dderwen fel bod modd cynnwys disgyblion o Ysgol Gynradd Gymunedol Treowen.  O fis Medi 2025, y bwriad yw y bydd disgyblion yn parhau i fynychu adeilad presennol Treowen nes bod yr adeilad newydd yn Ysgol Calon y Dderwen yn barod.

Pan fydd yr adeilad newydd yn agor, bydd safle Treowen yn cau ac yna bydd yr holl ddisgyblion yn symud i adeilad newydd Ysgol Calon y Dderwen.  Gofynnir i'r Cabinet gymeradwyo dechrau ymgynghoriad ffurfiol.

Ysgol G.G. Dyffryn Irfon

Yn dilyn gostyngiad sylweddol yn nifer y disgyblion yn Ysgol G.G Dyffryn Irfon a thrafodaethau gyda chorff llywodraethu'r ysgol mae swyddogion wedi adolygu'r sefyllfa ac wedi ystyried atebion posibl.

Er nad yw hyn yn rhan o adolygiad dalgylch ardal, mae Rhaglen Waith Trawsnewid Addysg yn caniatáu adolygiadau o ysgolion unigol fesul achos, yn seiliedig ar amgylchiadau penodol.

Yn dilyn yr adolygiad hwn, mae swyddogion wedi argymell i'r Cabinet fod y broses statudol yn dechrau ar gynnig i gau Ysgol Gynradd Gymunedol Dyffryn Irfon o 31 Awst 2024, gyda disgyblion yn trosglwyddo i'w hysgolion eraill agosaf ym Mhowys.

Bydd yr holl newidiadau yn amodol ar y broses ad-drefnu ysgolion statudol sy'n cynnwys ymgynghori helaeth pellach ag ysgolion a'u cymunedau, cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Sicrhau'r dechrau gorau mewn bywyd i'n pobl ifanc yw'r unig ffordd y gallwn adeiladu Powys Gryfach, Tecach a Gwyrddach. Un o'r ffyrdd y gallwn gyflawni hyn yw trwy drawsnewid addysg.

"Rwy'n credu bod y cynigion hyn yn bodloni nodau'r Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys wrth i ni geisio gwella hawl a phrofiad dysgwyr wrth ddarparu cyfleusterau ac amgylcheddau ar gyfer yr 21ain Ganrif lle mae dysgwyr ac athrawon yn ffynnu ac yn cyrraedd eu potensial.

"Mae cynnig Dyffryn Irfon y tu allan i'm hoff ddull o adolygu dalgylchoedd cyfan ond mae'n hanfodol ein bod yn parhau i fod yn hyblyg ac yn ymateb i bryderon a godwyd gan gyrff llywodraethu unigol."

I ddarllen y Strategaeth ddiweddaraf ar gyfer Trawsnewid Addysg 2020-2032 a manylion y Rhaglen Trawsnewid Addysg - Ton 2 (2022 - 2027) ewch i Trawsnewid Addysg