Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ymgynghoriad yn dechrau ar gynlluniau Cyfrwng Cymraeg i Ysgol Bro Caereinion

Image of Ysgol Bro Caereinion sign

20 Hydref 2023

Image of Ysgol Bro Caereinion sign
Mae ymgynghoriad wedi dechrau ar gynlluniau cyffrous i symud ysgol bob oed yng Ngogledd Powys ar hyd y continwwm ieithyddol fel ei bod yn dyfod i fod yn ysgol Cyfrwng Cymraeg yn y pen draw, yn ôl y cyngor sir.

Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig symud  Ysgol Bro Caereinion yn Llanfair Caereinion ar hyd y continwwm ieithyddol o fod yn ysgol ddwy ffrwd i fod yn ysgol Cyfrwng Cymraeg ar sail gyfnodol.

Byddai hyn yn galluogi'r holl ddysgwyr i ddatblygu eu sgiliau iaith a dyfod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg gan sicrhau eu bod yn dyfod yn gwbl ddwyieithog ac yn gallu defnyddio'r ddwy iaith yn hyderus yn y dyfodol.

Byddai hefyd yn sicrhau fod disgyblion yn y rhan hon o Bowys yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth uwchradd Cyfrwng Cymraeg ddynodedig. Mae'r ddarpariaeth hon eisoes ar gael i ddisgyblion mewn rhannau eraill o Gymru ond nid yw ar gael ym Mhowys ar hyn o bryd.

Cytunodd Cabinet ar hyn fis diwethaf (mis Medi) er mwyn dechrau ar ymgynghoriad ffurfiol o'r cynlluniau.

Mae'r cyngor nawr yn gofyn am safbwyntiau oddi wrth y cyhoedd ar y cynnig, a fyddai'n darparu dwy iaith i bob disgybl o'r dechrau cyntaf un o'u haddysg, gan eu galluogi i ddyfod yn gwbl ddwyieithog.

Pe bai hyn yn mynd rhagddo, byddai'r newid arfaethedig yn cael ei gyflwyno ar sail gyfnodol flwyddyn wrth flwyddyn, gan ddechrau gyda Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 7 ym mis Medi 2025.

Byddai cymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu i ddisgyblion nad ydynt yn y ffrwd Gymraeg eto, ar ffurf cymorth Trochi yn yr iaith Gymraeg, i alluogi disgyblion cyfredol y ffrwd Saesneg yng nghyfnod cynradd yr ysgol i bontio i'r ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg. Cafodd y math hon o ddarpariaeth ei chyflenwi'n llwyddiannus yn y sir yn flaenorol, ac mewn awdurdodau eraill i alluogi disgyblion i bontio o addysg Cyfrwng Saesneg i addysg Cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Sicrhau'r dechrau gorau mewn bywyd ar gyfer ein pobl ifanc yw'r unig ffordd y gallwn ni adeiladu Powys Gryfach, Decach a Gwyrddach. Un o'r ffyrdd y gallwn ni wneud hyn yw drwy drawsnewid addysg.

"Byddai'r cynnig hwn yn arwain at y cyngor yn darparu darpariaeth sydd wedi ei chynllunio'n dda, ar gyfer cynyddu cyfleoedd i nifer gynyddol o blant a phobl ifanc i ddyfod yn gwbl ddwyieithog, yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ac felly'n cyfrannu at ddyhead Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Mae'r cynnig hwn yn bodloni nodau Strategaeth Trawsnewid Addysg ym Mhowys ac yn gweithredu'r ymrwymiadau yn ein Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg, a fydd yn ein galluogi ni i wneud cynnydd da yn erbyn ein targed o gynyddu'r nifer o ddisgyblion sy'n cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Fodd bynnag, mae'n bwysig fod cymunedau ysgolion Bro Caereinion a'i hysgol gynradd fwydo, ynghyd â'r rheini sy'n byw yn yr ardal ehangach, yn cael dweud eu dweud am y cynigion hyn. Rwy'n eu hannog i anfon eu safbwyntiau fel y gellir eu hystyried.

I ymateb i'r ymgynghoriad, ewch i Ysgol Bro Caereinion

Neu gallwch ymateb i ni yn ysgrifenedig drwy e-bostio school.consultation@powys.gov.uk neu drwy'r post i'r Tîm Trawsnewid Addysg, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, LD1 5LG.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Iau, 30 Tachwedd, 2023.

I ddysgu mwy am addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys, ewch i Taith at Ddwy Iaith

I ddarllen diweddariad Strategaeth Trawsnewid Addysg 2020-2032 a manylion am y Rhaglen Trawsnewid Addysg - Ton 2 (2022 - 2027) ewch i Trawsnewid Addysg