Hunanasesiad corfforaethol diweddaraf ar gael ar-lein
23 Hydref 2023
Mae'r ddogfen yn cynnwys gwybodaeth a gasglwyd o amrywiaeth o ffynonellau rhwng Ebrill 2022 i Fawrth 2023, ac mae'n dangos sut mae'r cyngor yn:
- Ymarfer ei swyddogaethau'n effeithiol;
- Defnyddio adnoddau'n economaidd, yn effeithlon ac yn effeithiol;
- Wedi ei seilio ar lywodraethu effeithiol.
Cafodd yr adroddiad hunanasesiad corfforaethol ei gymeradwyo gan y Cabinet ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf.
Nod yr adroddiad yw cyflwyno asesiad gonest, myfyriol o sut mae'r cyngor wedi perfformio yn ystod y 12 mis diwethaf; beth sydd wedi gweithio'n dda, beth sydd angen ei wella a beth sydd angen ei wneud yn wahanol i bobl Powys.
Mae'r adroddiad hwn hefyd yn manylu ar sut mae'r cyngor wedi cyflawni yn erbyn amcanion a mesurau llesiant o fewn dogfennau strategol y cyngor, gan gynnwys y Cynllun Gwella Corfforaethol a'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol.
Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd ac Aelod Cabinet Powys Agored a Thryloyw: "Mae'n ofynnol i'r Cyngor ddatblygu a chyhoeddi adroddiad hunanasesu unwaith ym mhob cyfnod ariannol.
"Mae'r adroddiad hwn yn dangos sut mae'r cyngor yn cyflawni ar lefel strategol a sut y caiff prosesau eu hadolygu i sicrhau eu bod yn gweithio'n gywir.
"Mae hon yn broses fyfyriol, ac mae arfer da a meysydd i'w gwella wedi'u nodi a byddant yn cael eu defnyddio i wella sut mae'r Cyngor yn gweithio, ac yn y pen draw, yn cefnogi pobl Powys.
"Mae hwn hefyd yn adroddiad ar gyfer pobl Powys, a byddem yn falch pe bai pawb yn rhannu eu barn ar ba mor effeithiol rydyn ni, fel eich Cyngor."
I ddarllen yr adroddiad llawn, ewch i Adroddiad Hunanasesu Corfforaethol Blynyddol.
I rannu eich barn ar unrhyw bryd, defnyddiwch y ddolen ganlynol: www.dweudeichdweudpowys.cymru/oes-funud-gyda-chi