Lefel 1
Grŵp o 100 y Gwasanaeth tai (GGT 100)
Nod y "Grŵp Gwasanaethau Tai 100) yw gwneud y broses o gymryd rhan mor hawdd ag sy'n bosibl. Hoffem gael o leiaf 100 o denantiaid Cyngor Sir Powys i fod yn rhan o'r grŵp hwn. Fodd bynnag, y mwyaf y bydd yn ymuno'r gorau. Byddwn yn cysylltu â thenantiaid am faterion tai a gwasanaethau y maent wedi nodi sydd o ddiddordeb iddynt hwy. Mae sawl dewis ar gael er mwyn cysylltu (e.e. ffôn, e-bost a phost). Bydd aelodau'r grŵp hwn yn derbyn cylchlythyr blynyddol.
Arolygon
Bob dwy flynedd mae'r Cyngor yn cynnal Arolwg Boddhad Cwsmeriaid STAR, gyda chanran o denantiaid trwy alwad ffôn gan gwmni ymchwil marchnad annibynnol.
Defnyddir y wybodaeth a gesglir i helpu i ddatblygu a gwella ein Gwasanaethau Tai. Rhennir y canlyniadau gyda'r Panel Craffu Tenantiaid, a chânt eu cyhoeddi yng nghylchlythyr Tŷ Agored.
Anfonir Arolygon Tenantiaeth Newydd at denantiaid newydd, saith wythnos ar ôl i'w
tenantiaeth ddechrau. Cwblheir yr arolygon naill ai drwy e-bost neu alwad ffôn. Mae'r
Tîm Ymgysylltu â Phreswylwyr yn mynd ar drywydd unrhyw faterion sy'n weddill a
darperir adroddiad chwarterol i'r Panel Craffu Tenantiaid a'r Tîm Rheoli Tai.