Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Grŵp o 100 y Gwasanaeth tai (GGT 100)

Mae Cyngor Sir Powys wedi ymrwymo i sicrhau fod tenantiaid yn cael cyfle i fynegi eu barn ar y gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor. Mae'r wybodaeth a geir gan denantiaid yn cynorthwyo Cyngor Sir Powys i weithio tuag at wella ei wasanaethau'n barhaus.

Mae'r Grŵp o 100 y Gwasanaeth Tai yn un ffordd i fynegi eich barn trwy ddull sy'n addas i chi.


SUT HOFFECH INNI YMGYNGHORI GYDA CHI?
Dros y Ffôn - gofynnir i chi fynegi eich barn dros y ffôn drwy ateb cyfres o gwestiynau syml. Holiadur drwy'r Post - byddwch yn derbyn cwestiynau, a gofynnir i chi eu cwblhau a dychwelyd eich ymateb yn yr amlen bwrpasol.
Drwy Ebost - byddwch yn derbyn e-bost gyda'r cwestiynau, a gofynnir i chi eu hateb ar eich cyfrifiadur ac wedyn e-bostio eich ymateb atom.
Grŵp Ffocws - gofynnir i chi gwrdd mewn awyrgylch hamddenol gyda thenantiaid eraill o'r grŵp ffocws ac aelodau staff i drafod un o wasanaethau penodol yr adran tai - cyfle gwych i ddweud eich dweud.
Ein nod yw cael 100 o denantiaid yn rhan o'r Grŵp o 100 y Gwasanaeth Tai. Fodd bynnag, gorau po fwyaf y nifer o denantiaid sy'n cymryd rhan er mwyn inni gael gwell syniad o'ch barn chi a'n gwasanaethau ni.
SUT I YMUNO A'R GRŴP o 100 y GWASANAETH TAI
Os ydych am ymuno â'r Grŵp o 100 y Gwasanaeth Tai, bydd angen i chi gwblhau'r ffurflen gais atodedig, a dangos ym mha feysydd gwasanaeth yr hoffech fynegi eich barn.
Ar ôl ymuno â'r grŵp byddwch yn derbyn llythyr croeso i gadarnhau eich bod yn aelod o'r grŵp, eich dewis ddull(iau) ar gyfer ymgynghori a'r meysydd gwasanaeth yr hoffech fynegi eich barn arnynt.
CYLCHLYTHYR
Fel aelod o'r GGT 100 byddwch yn derbyn cylchlythyr a gynhyrchir yn arbennig i aelodau'r Grŵp o 100 y Gwasanaeth Tai, unwaith y flwyddyn gyda diweddariad ynghylch cynnydd y grŵp a'r gwahaniaeth a wneir gan eich cyfraniad.
MWY O WYBODAETH
Os hoffech dderbyn gwybodaeth bellach am ymuno â'r grŵp, croeso i chi gysylltu

 

Contacts

Feedback about a page here