Toglo gwelededd dewislen symudol

Lefel 3

level 3 - Listening

Panel Craffu Tenantiaid

Mae'r Panel Craffu Tenantiaid yn banel sy'n cael ei arwain gan denantiaid ledled y Sir ac mae'n cael effaith sylweddol ar benderfyniadau'r Cyngor am y gwasanaeth tai.

Mae'r aelodaeth yn cynnwys cynrychiolwyr tenantiaid sydd wedi gwneud cais i fod yn aelodau o'r panel i ddarparu profiad a/neu wybodaeth o safbwynt tenantiaid, 4 Cynghorydd Sir a'r Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb portffolio dros Dai a Staff Tai.

Ffurfir gweithgorau o bryd i'w gilydd o'r panel hwn i weithio ar brosiectau penodol.

Grantiau Caru Lle Ry'ch Chi'n Byw

Mae Cyllid Caru Lle Ry'ch Chi'n Byw yn gynllun grantiau bach sydd â'r nod o helpu i wella bywydau tenantiaid a thrigolion sy'n byw ar ein stadau ym Mhowys. Yr uchafswm y gellir gwneud cais amdano yw £500 fesul cais. I wneud cais am arian, rhaid i'r prosiect gael cefnogaeth Swyddog Ymgysylltu Preswylwyr o'r Gwasanaeth Tai.

Bwriad grantiau yw cefnogi prosiectau sydd;

  • darparu budd hirdymor i'r tenantiaid a'r trigolion
  • cynyddu sgil a chreadigedd
  • gwella ansawdd bywyd pobl yn eu hardal
  • cefnogi egwyddorion mynediad a chyfle cyfartal

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu