Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Y cyngor i wario £5 miliwn ar welliannau digidol

Two women using their smart phones

3 Tachwedd 2023

Two women using their smart phones
Bydd mwy na £5 miliwn yn cael ei wario dros bedair blynedd ar welliannau digidol sy'n cynnig rhagor o ddewis i breswylwyr a busnesau ac a fydd yn gwneud Cyngor Sir Powys yn fwy cydnerth.

Caiff yr arian ei ddefnyddio i ariannu mwy na 15 o brosiectau ar wahân a fydd yn cefnogi darparu gweledigaeth y cyngor i greu Powys gryfach, decach a gwyrddach.

Yn eu plith fydd system ddigidol newydd a fydd yn rhannu gwybodaeth rhwng gwasanaethau iechyd cymunedol a gofal cymdeithasol, un ar gyfer rheoli tai cyngor a darparu gwasanaethau i denantiaid, ac un ar gyfer cyflwyno a chadw golwg ar geisiadau adeiladu ac ymholiadau rheolaeth adeiladu.

Hefyd, bydd gwasanaethau ac opsiynau ychwanegol yn cael eu hychwanegu at fwy na 68,000 o Fy Nghyfrifon Powys ar-lein, sydd bellach yn cael eu defnyddio gan breswylwyr a busnesau.

"Mae'r rhaglen ddigidol uchelgeisiol hon yn ymwneud â chwrdd â disgwyliadau'r rheini sy'n dod atom ni am help, gwybodaeth, neu gyngor, ac sydd am gael rhagor o hyblygrwydd a dewis ynghylch sut a phryd y byddan nhw'n cysylltu â ni," dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol. "Bydd hyn hefyd yn arwain at newidiadau sylfaenol i'r ffordd mae'r cyngor yn gweithredu â'r nod o ddarparu gwasanaethau mewn modd mwy cost-effeithiol, sy'n fwy cyfleus i gwsmeriaid."

Ychwanegodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys: "Gall technoleg newydd wella bywydau ein preswylwyr, gan gynnwys y rhai mwyaf bregus, ac mae angen i ni gydio yn y cyfleoedd hyn pa bryd bynnag y gallwn ni.

"Mae ein gwaith trawsnewid eisoes wedi arwain at nifer o welliannau i wasanaethau a gwell profiadau i gwsmeriaid, ac rydym am wneud yn siŵr fod hyn yn parhau gydag opsiynau digidol newydd y mae pobl am eu defnyddio yn hytrach na theimlo fod yn rhaid iddynt eu defnyddio."

Mae'n bosibl y bydd y prosiectau sy'n cael eu hariannu yn newid, yn dilyn asesiad o achosion busnes manwl, tra bydd eraill hefyd yn debygol o gael eu hychwanegu at y rhestr gychwynnol o 15:

  • System newydd ar gyfer rhannu gwybodaeth rhwng gwasanaethau iechyd cymunedol a gofal cymdeithasol.
  • System newydd ar gyfer rheoli tai cyngor a darparu gwasanaethau i denantiaid.
  • Trawsnewid gwasanaethau'r cyngor, sy'n ddibynnol ar linellau ffôn copr, at rwydweithiau digidol.
  • System newydd ar gyfer rheoli cynllunio, rheolaeth adeiladu, taliadau tir, diogelu'r cyhoedd, a gwasanaethau tai'r sector preifat ac ar gyfer darparu mynediad cyhoeddus atynt.
  • Defnyddio sensoriaid, a thechnoleg o bell arall, i helpu i fonitro pobl fregus yn eu cartrefi eu hunain, fel cymorth i wasanaethau gofal.
  • Trosglwyddo i system gadw ar-lein fwy diogel a chydnerth ar gyfer data'r cyngor.
  • System sgwrsio sy'n cael ei reoli gan AI (deallusrwydd artiffisial) at ddefnydd preswylwyr a busnesau wrth gysylltu â'r cyngor.
  • Defnyddio sensoriaid a thechnoleg o bell arall i helpu i fonitro newidiadau amgylcheddol.
  • Ap ffôn symudol a fydd yn galluogi preswylwyr a busnesau i barhau i fod wedi mewngofnodi i Fy Nghyfrifon Powys.
  • Trawsnewid Gwasanaethau Eiddo, Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd Powys.
  • Estyn Fy Nghyfrifon Powys i gynnwys rhagor o wasanaethau.
  • System newydd ar-lein ar gyfer printio a phostio at ddefnydd staff y cyngor.
  • Ap ffôn symudol staff Powys a fydd yn galluogi i ragor o dasgau gael eu cwblhau ar ffôn neu lechen.
  • Ap ffôn iechyd a gofal a fydd yn galluogi preswylwyr i gael mynediad at wasanaethau'r cyngor a'r GIG drwy gyfrif sengl. 
  • Defnydd o lwyfan cymunedol ym Mhowys i helpu pobl i ofyn am, a chynnig gofal a chymorth drwy wasanaethau gwirfoddol neu rai a delir amdanynt.

Rhagor o wybodaeth am gynllun corfforaethol Cryfach, Tecach, Gwyrddach y cyngor: Cryfach, Tecach, Gwyrddach - Ein Cynllun Corfforaethol

Rhagor o wybodaeth am raglen Powys Ddigidol y cyngor: Powys Ddigidol