Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Angen Blaenoriaethol

A fydd y Cyngor yn darparu llety dros dro i mi?

Os yw'r Cyngor yn cytuno eich bod chi'n ddigartref heddiw ac nad oes unrhyw le gennych y gallwch aros ynddo dros dro, rhaid i'r Cyngor bennu a oes raid iddo ddarparu llety dros dro i chi.

Mae dyletswydd cyfreithiol ar y Cyngor i ddarparu llety dros dro i chi os ydym ni'n penderfynu eich bod yn deilwng o Angen blaenoriaethol. Dyma'r term sy'n cael ei ddefnyddio i ddynodi personau y mae deddfwriaeth ddigartrefedd yn ei amodi iddynt y dylent gael eu darparu â llety dros dro os ydyn nhw'n ddigartref.

Dyma restr yr Angen blaenoriaethol

Gallech chi fod yn deilwng o angen blaenoriaethol os ydych chi:

  • Yn wraig feichiog neu'n berson sy'n preswylio â hi neu y gallai fod yn ddisgwyliad rhesymol i breswylio.
  • Person sy'n preswylio â phlentyn dibynnol, neu y gallai fod yn rhesymol i breswylio.
  • Person          

i) Sy'n fregus o ganlyniad i ryw reswm arbennig (er enghraifft: henaint, salwch corfforol neu feddyliol neu anabledd corfforol neu feddyliol), neu

ii) sydd, gyda pherson sy'n dod oddi fewn i is-baragraff (i) yn preswylio neu y gallai fod disgwyliad rhesymol i breswylio.

  • Person          

i) sy'n ddigartref neu'n cael ei fygwth gan digartrefedd o ganlyniad i argyfwng fel llifogydd, tân, neu drychineb arall, neu

ii) sydd, gyda pherson sy'n dod oddi fewn i is-baragraff (i) yn preswylio neu y gallai fod disgwyliad rhesymol i breswylio.

  • Person          

i) sy'n ddigartref o ganlyniad i gam-drin domestig, neu

ii) sydd, gyda pherson arall yn dod o dan is-baragraff (i) yn preswylio (ac eithrio'r sawl sy'n cam-drin) neu bod disgwyliad rhesymol i breswylio

  • Person          

i) sy'n 16 neu 17 oed pan fo'r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu help i gael neu i gadw llety, neu

ii) sydd, gyda pherson arall o dod o dan is-baragraff (i) yn preswylio neu bod disgwyliad rhesymol i breswylio.

  • Person          

i) sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan fydd y person yn gwneud cais i awdurdod lleol am lety neu help i gael neu i gadw llety, ond ddim yn 21 oed, sydd mewn risg penodol o ecsbloetio rhywiol neu ariannol, neu

ii) sydd, gyda pherson sy'n dod oddi fewn i is-baragraff (i) yn preswylio (ac eithrio ecsbloetiwr neu ecsbloetiwr posibl) neu y mae disgwyliad rhesymol i breswylio.

  • Person         

i) sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan fydd y person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu help i gael neu i gadw llety, ond ddim yn 21 oed, a oedd yn derbyn gofal, neu wedi ei faethu ar unrhyw adeg o dan 18 oed, neu

ii) sydd, gyda pherson sy'n dod oddi fewn i is-baragraff (i) yn preswylio neu bod disgwyliad rhesymol i breswylio.

  • Person          

i) sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd y Goron ac sydd wedi bod yn ddigartref ers gadael y lluoedd hynny, neu

ii) sydd, gyda pherson sy'n dod oddi fewn i is-baragraff (i) yn preswylio neu bod disgwyliad rhesymol i breswylio.

  • Person sydd â chyswllt lleol â'r ardal o'r awdurdod lleol ac sy'n fregus o ganlyniad i un o'r rhesymau canlynol:

i) Wedi gwasanaethu dedfryd o garchar oddi fewn i'r ystyr o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000,

ii) Wedi ei remandio neu gyflwyno i'w gadw yn y ddalfa yn ôl gorchymyn llys, neu

iii) wedi ei remandio i lety cadw ieuenctid o dan o dan Adran 91(4) Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr Adran 91(4) 2012, neu berson sy'n preswylio â'r fath berson neu bod disgwyliad rhesymol i breswylio.

  • A person sy'n ddigartref ar y stryd.