Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Help y gallwn ei roi os ydych chi'n ddigartref

Po gynharaf y byddwch yn gwneud y Gwasanaethau Tai yn ymwybodol o'ch sefyllfa dai, y mwyaf tebygol y byddwn yn gallu eich helpu.

Os ydych chi'n ddigartref heddiw a heb neb y gallwch chi aros gyda nhw dros dro, fe'ch cyfeirir at y Swyddog ar Ddyletswydd.  Bydd y Swyddog ar Ddyletswydd yn cymryd mwy o wybodaeth gennych chi ac yn dibynnu ar eich amgylchiadau a'ch cymhwysedd, efallai y bydd yn ceisio sicrhau llety dros dro i chi tra bydd ymholiadau pellach yn cael eu gwneud i'ch amgylchiadau.

Os nad ydych yn ddigartref heddiw ond yn poeni y gallech fod yn fuan, bydd y Swyddog Cyswllt Cyntaf yn cymryd manylion cychwynnol gennych ac yna'n trefnu bod Gweithiwr Achos yn cysylltu â chi.

Bydd eich Gweithiwr Achos yn cysylltu â chi ac yn gweithio gyda chi ar nodi opsiynau tai addas.  Bydd y Gweithiwr Achos yn llunio Cynllun Tai gyda chi, a bydd hwn yn rhoi manylion am y camau rhesymol y byddwch chi a'r Gweithiwr Achos yn eu cymryd i sicrhau llety addas. Gallai hyn gynnwys llety'r Cyngor neu'r Gymdeithas Dai, neu cartrefi wedi'u rhentu'n breifat.

Bydd angen i chi weithio'n agos gyda'ch Gweithiwr Achos oherwydd bydd yn gallu eich cynghori ynghylch eich opsiynau, gan ganolbwyntio ar gyngor ymarferol a chyfreithiol i'ch helpu i aros lle rydych chi a / neu eich helpu i ddod o hyd i lety arall.

Rhai enghreifftiau o'r pethau y gallwn roi cynnig arnynt yw:

  • Trafod gyda'ch landlord, ffrindiau neu berthnasau i'ch galluogi i aros yn eich cartref
  • Gwneud yn siŵr eich bod chi'n derbyn yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt fel eich bod chi'n gallu fforddio aros yn eich cartref (hy gwneud y mwyaf o'ch incwm)

Os na allwn atal eich digartrefedd, yna byddwn yn eich helpu i chwilio am rywle arall i fyw.

Bydd eich Gweithiwr Achos yn sicrhau eich bod yn gwybod yn union beth yw eich opsiynau a bydd yr holl benderfyniadau am eich achos yn cael eu cadarnhau i chi yn ysgrifenedig. Os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad a wnaed, gallwch ofyn am adolygu'r penderfyniad.

Wrth weithio gyda chi, gallai eich Gweithiwr Achos benderfynu eich bod wedi gwneud eich hun yn ddigartref yn fwriadol oherwydd y camau rydych wedi'u cymryd.  Gallwch ddarganfod mwy am hyn yma.

Angen â Blaenoriaeth

Os cytunwn eich bod yn ddigartref heddiw ac nad oes gennych unrhyw le y gallwch aros dros dro, rhaid inni benderfynu a oes rhaid i ni ddarparu llety dros dro i chi.

Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu llety dros dro i chi os penderfynwn eich bod mewn Angen Blaenoriaethol.

Adolygu'r penderfyniad

Gallwch ofyn am adolygiad o benderfyniad a wnaed gennym ni os nad ydych yn cytuno ag ef.  Fe welwch fanylion am bwy i gysylltu ag ef ynglŷn â gofyn am adolygiad yn y llythyr penderfyniad a roddir i chi.  Dylai eich cais am adolygiad gael ei wneud cyn pen 21 diwrnod. Efallai y bydd yn haws i chi nodi'ch rhesymau dros ofyn am adolygiad yn ysgrifenedig fel y gallwch egluro'ch pwyntiau.  Dylech sicrhau eich bod yn egluro'n llawn os ydych yn teimlo nad yw materion pwysig am eich amgylchiadau wedi cael ystyriaeth briodol.

Os cawsoch gynnig llety gennym ni, ond eich bod yn teimlo nad yw'n addas i chi, gallwch hefyd ofyn am adolygiad.  Byddem yn eich annog i dderbyn y cynnig hyd yn oed os ydych yn gofyn am adolygiad, oherwydd os bydd yr adolygiad yn mynd yn eich erbyn ni fyddwn yn cynnig unrhyw lety arall i chi.    Hefyd, os ydych chi wedi cael llety dros dro bydd gofyn i chi adael y llety pe bai'r adolygiad yn mynd yn eich erbyn.
 

Cyswllt - Tai

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau


Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu