Y diweddaraf am Bont Teithio Llesol Y Drenewydd
13 Tachwedd 2023
Dechreuodd y gwaith o adeiladu'r bont hir-ddisgwyliedig dros Afon Hafren ar y safle ym mis Mehefin ac mae'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru. Bydd strwythur y bont un-bwa o ddur yn rhychwantu tua 53 metr ac yn cysylltu llwybr glan yr afon ar lan orllewinol yr afon â Ffordd y Trallwng ar y lan ddywreiniol.
Er bod uwchstrwythur y bont wedi'i gynhyrchu a'i baentio oddi ar y safle ar safleoedd contractwyr yn Wrecsam a'r Wyddgrug, mae llawer o'r gwaith o baratoi'r tir wedi bod yn mynd rhagddo ar y safle ei hun, gan gynnwys clirio a chloddio, yn ogystal ag adeiladu sylfeini'r bont a strwythur cynnal dros dro i hwyluso'r dasg o gydosod y cyfan.
Bydd camau nesaf y prosiect yn dechrau'n fuan, gyda rhannau o strwythur y bont yn cael eu dosbarthu i Depo Kirkhamsfield i'w cynnull yn barod i greu strwythur llawn y bont. Bydd y pyst sylfaen ar gyfer y sylfeini a'r ategwaith hefyd yn cael eu cwblhau'n yn fuan ar y naill lan a'r llall i'r afon.
Os digwydd popeth yn ôl y disgwyl, heb unrhyw darfu gan y tywydd, mae'r cwmni adeiladu sy'n gyfrifol am y bont, JN Bentley, yn disgwyl gallu codi strwythur y bont gyflawn i'w le gyda chraen erbyn diwedd mis Ionawr. Ar hyn o bryd bwriedir i'r bont fod wedi'i chwblhau'n llwyr ac ar agor i'r cyhoedd erbyn Gwanwyn 2024.
"Bydd y bont hon yn creu cyswllt teithio llesol diogel rhwng y cymunedau, y busnesau a'r amwynderau ar ddwy lan yr afon a bydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i'r rhai sy'n byw yn yr ardal leol." Esboniodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet Powys Wyrddach.
"Bydd y prosiect hwn yn ychwanegu at y rhwydwaith cynyddol o lwybrau teithio llesol ledled y sir a bydd yn ei gwneud hi'n haws i bobl Y Drenewydd wneud teithiau byr, er enghraifft i'r gwaith, i'r ysgol neu'r siopau lleol, gan gerdded neu seiclo, yn hytrach na gorfod teithio yn y car.
"Rydym yn gwerthfawrogi y bydd rhywfaint o darfu ar yr ardal leol yn ystod y gwaith o adeiladu prosiect o'r maint hwn, ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra ac yn diolch i'r gymuned leol am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth i ni weithio'n galed i orffen y bont a'i hagor i'r cyhoedd."
Llun: Mae rhannau o'r bont deithio llesol newydd ar gyfer y Drenewydd yn cael eu danfon i Depo Kirkhamsfield. Maent eisoes wedi'u cynhyrchu a'u paentio a byddant nawr yn cael eu cydosod ar y safle.