Ysgol Uwchradd Y Trallwng
22 Tachwedd 2023
Bydd gwaith yn cael ei wneud ar system wresogi Ysgol Uwchradd Y Trallwng fis nesaf (Rhagfyr).
Fodd bynnag, mae angen i'r system wresogi gael ei diffodd yn llwyr am hyd at dair wythnos er mwyn gallu gwneud y gwaith brys.
Yn dilyn trafodaethau gyda'r ysgol, cytunwyd mai'r diwrnod olaf yn adeilad yr ysgol i ddysgwyr a staff fydd dydd Gwener, 15 Rhagfyr. Bydd yr ysgol yn symud i ddysgu ar-lein am y pedwar diwrnod olaf o dymor yr hydref, sy'n dod i ben ddydd Iau, 21 Rhagfyr.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Mae natur y gwaith brys yn golygu bod yn rhaid i'r system wresogi gael ei diffodd yn llwyr am hyd at dair wythnos.
"Yn dilyn trafodaethau gyda'r ysgol, cytunwyd mai cau'r adeilad ar gyfer wythnos olaf tymor yr hydref fyddai'n cael yr effaith leiaf ar ddysgwyr.
"Mae'r ysgol wedi rhoi gwybod i rieni am y sefyllfa fel bod ganddyn nhw ddigon o amser i wneud y trefniadau gofal plant priodol ar gyfer y pedwar diwrnod hynny.
"Rydym yn hyderus y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau ac yn barod ar gyfer pryd y bydd dysgwyr a staff yn dychwelyd ar ôl gwyliau'r Nadolig."