Penodi contractwr i adeiladu datblygiad tai cyngor newydd
27 Tachwedd 2023
Dyfarnwyd y contract i J. Harper a'i Feibion (Leominster) Ltd i adeiladu 32 o fflatiau fforddiadwy, ynni-effeithlon iawn, un llofft, ar hen safle Tŷ Robert Owen yn y dref.
Caiff y datblygiad ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru a bydd y cyngor yn berchen ar y cartrefi newydd ac yn eu rheoli. Caiff y fflatiau eu dynodi i denantiaid drwy 'Cartrefi ym Mhowys' - sef y siop un stop ar gyfer holl dai cymdeithasol y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Rwyf wrth fy modd fod J. Harper a'i Feibion wedi cael eu penodi fel y prif gontractwr i adeiladu'r datblygiad tai hwn.
"Un o flaenoriaethau'r cyngor yw mynd i'r afael ag argyfwng tai yn y sir, a dim ond drwy adeiladu tai cyngor o ansawdd uchel y gellir cyflawni hyn. Dyna pam ein bod ni wedi ymrwymo bron i £79m fel rhan o becyn buddsoddi i adeiladu mwy na 310 o dai cyngor newydd.
"Nid yn unig yw'r datblygiad hwn yn y Drenewydd yn rhan o'n cynlluniau adeiladu tai uchelgeisiol, ond y mae hefyd yn brosiect pwysig i'r cyngor i helpu i fynd i'r afael ag argyfwng tai.
"Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous a fydd yn diwallu anghenion y gymuned leol ac edrychaf ymlaen at weithio gyda J. Harper a'i Feibion i gyflawni un o'n blaenoriaethau pwysig."
Dywedodd Michael Harvey, Cyfarwyddwr Masnachol Grŵp J. Harper a'i Feibion: "Rydym wrth ein boddau ein bod ni'n parhau â'n partneriaeth â Chyngor Sir Powys, sy'n buddsoddi i ddarparu tai sy'n fawr eu hangen yn y sir.
"Fel cwmni, mae J. Harper a'i Feibion yn ymroddedig i helpu i frwydro yn erbyn yr argyfwng tai drwy adeiladu tai newydd ynni-effeithlon.
"Edrychwn ymlaen at ddechrau ar y safle a darparu tai o ansawdd uchel i'r gymuned leol."