10 mlynedd ers iddi ddod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i arddangos Sgoriau Hylendid Bwyd
27 Tachwedd 2023
Ers mis Tachwedd 2013, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau yng Nghymru arddangos eu sticer sgôr hylendid bwyd mewn man amlwg - fel y drws blaen, y fynedfa neu ffenestr flaen.
Mae'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wedi sicrhau buddion parhaol i ddefnyddwyr ac i fusnesau fel ei gilydd. Yn wir, mae'r Cynllun yn cael ei ddathlu fel un o gyflawniadau mwyaf arwyddocaol y wlad yn yr 21ain ganrif o ran iechyd cyhoeddus..
Ddegawd yn ddiweddarach, mae'r Cynllun wedi codi safonau mewn busnesau bwyd yn awdurdod lleol Powys gyda dros 1,648 o fusnesau'n arddangos sgôr o 5 a 2,157 o fusnesau â sgôr o 3 neu uwch.
Dywed y Cyng. Richard Church, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys fwy Diogel: "Mae'r sticeri sy'n ymddangos ar fusnesau ledled y sir yn ffordd syml, effeithiol a thryloyw i fwytai, caffis, archfarchnadoedd a hyd yn oed gwefannau, roi sicrwydd i'w cwsmeriaid fod eu busnes yn ddiogel, ac yn cymryd y safonau o ddifrif.
"Mae'r cynllun yn rhoi hyder i gwsmeriaid ac yn sicrhau fod pob busnes yn y sir yn gweithio mewn ffordd ddiogel ac y caiff bwyd ei baratoi a'i weini trwy arfer dulliau glân a hylan."
Mae'r Cynllun yn rhoi grym i bobl wneud dewisiadau gwybodus ynghylch ble i brynu a bwyta bwyd bob dydd. Mae arddangos y sgoriau yn cynnig manteision eraill hefyd, ac yn annog busnesau bwyd i wella eu safonau hylendid. Gall pob busnes bwyd ennill y sgôr uchaf o '5 - da iawn' drwy wneud yr hyn sy'n ofynnol yn ôl cyfraith bwyd. Cofiwch, mae sgôr hylendid da yn gadarnhaol i fusnesau - gan gynnig mantais gystadleuol i'r rhai sydd â'r sgôr hylendid uchaf.
Ni ddylid diystyru effaith y cynllun. Mae'r Cynllun gorfodol wedi arwain at wella safonau hylendid mewn busnesau bwyd, gyda 97% o fusnesau yng Nghymru bellach yn arddangos sgôr o '3' neu uwch. Mae ymchwil yn dangos bod busnesau sydd â sgôr uwch yn llai tebygol o fod yn gyfrifol am achosion o salwch a gludir gan fwyd.
Dywedodd Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru:
"Rydym yn falch o gynnal y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Mae awdurdodau lleol yn hanfodol i lwyddiant y Cynllun. Wrth ymgysylltu'n rheolaidd â busnesau bwyd, maent wedi chwarae rhan allweddol wrth godi safonau hylendid i'r fath lefelau heddiw. Mae'r Cynllun yn caniatáu i bobl bleidleisio â'u traed neu drwy glicio botwm a dewis y busnesau hynny sy'n cymryd hylendid bwyd o ddifrif."
Cofiwch holi am y Sgôr Hylendid Bwyd, edrych am y sticer, neu wirio ar-lein cyn prynu bwyd: https://ratings.food.gov.uk/cy