Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Hwb i 11 o fanciau bwyd Powys

Volunteers picking food parcels at Llandrindod Foodbank

27 Tachwedd 2023

Volunteers picking food parcels at Llandrindod Foodbank
Mae un ar ddeg o fanciau bwyd ledled Powys wedi elwa o'r rownd ddiweddaraf o grantiau Cymorth Bwyd Uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. 

Maent wedi derbyn cyfran o gyfanswm o £30,199, a ddosbarthwyd gan Gyngor Sir Powys.

Diben y cyllid grant yw cefnogi banciau bwyd i brynu cyflenwadau ychwanegol ac i'w helpu talu eu costau rhedeg wrth i'r gaeaf nesáu.

Mae'r banciau bwyd canlynol, sy'n cefnogi trigolion Powys, wedi derbyn y cyllid:

  • Aberhonddu
  • Cwm Tawe (CATCH)
  • Helping Our Homeless (Llanfair ym Muallt)
  • Tref-y-clawdd
  • Llandrindod
  • Pantri Llani
  • Y Drenewydd (Byddin yr Iachawdwriaeth)
  • Croesoswallt a'r Gororau
  • Rhaeadr Gwy
  • Y Trallwng
  • Ystradgynlais

Dywed y Cyng. Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys ac Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Rwyf yn hynod falch ein bod wedi gallu helpu ein banciau bwyd, sydd yn anffodus, yn wynebu galw cynyddol, trwy ddosbarthu'r grant hwn.

"Maen nhw'n gwneud gwaith gwych o ran cefnogi rhai o bobl fwyaf bregus ein cymunedau, ac os oes angen eu cymorth arnoch chi, cofiwch gysylltu â nhw."

Ychwanegodd Tessa Bradley, rheolwr prosiect Banc Bwyd Llandrindod: "Gyda'r cynnydd mewn costau sy'n achosi trafferthion i bawb, mae'r rhoddion bwyd a dderbyniwyd gan Fanc Bwyd Llandrindod wedi gostwng yn sylweddol dros y misoedd diwethaf. 

"Mae'r arian a dderbyniwyd trwy'r Gronfa Cymorth Bwyd Uniongyrchol wedi ein galluogi i brynu bwyd i lenwi'r bylchau, ac rydym yn parhau i allu rhoi bwyd i'r nifer gynyddol o bobl sy'n cael eu hatgyfeirio atom.

"Heb yr arian yma, byddai'n rhaid inni gyfyngu'r bwyd sydd ym mhob parsel, a lleihau'r amrywiaeth yn ogystal â'r maint. Diolch yn fawr!"

Yn ôl Rob Field, rheolwr prosiect Banc Bwyd Y Trallwng a'r Ardal: "Roedd y Cyllid Cymorth Bwyd Uniongyrchol yn llinell bywyd i'n banc bwyd ni. Roeddem wedi gweld gostyngiad yn ein rhoddion bwyd yn ddiweddar, a chynnydd mewn atgyfeiriadau o ryw 20% felly, roedd y grant yn ein galluogi i gynyddu ein capasiti i gefnogi unigolion a theuluoedd bregus yng ngogledd Powys."

Mae manylion banciau bwyd Powys a chymorth arall sydd ar gael i drigolion sy'n cael trafferthion, ar gael trwy Hwb Costau Byw'r Cyngor: Hwb Costau Byw

LLUN: Gwirfoddolwyr yn creu parseli bwyd ym Manc Bwyd Llandrindod. Llun: Banc Bwyd Llandrindod