Hwb i 11 o fanciau bwyd Powys
27 Tachwedd 2023
Maent wedi derbyn cyfran o gyfanswm o £30,199, a ddosbarthwyd gan Gyngor Sir Powys.
Diben y cyllid grant yw cefnogi banciau bwyd i brynu cyflenwadau ychwanegol ac i'w helpu talu eu costau rhedeg wrth i'r gaeaf nesáu.
Mae'r banciau bwyd canlynol, sy'n cefnogi trigolion Powys, wedi derbyn y cyllid:
- Aberhonddu
- Cwm Tawe (CATCH)
- Helping Our Homeless (Llanfair ym Muallt)
- Tref-y-clawdd
- Llandrindod
- Pantri Llani
- Y Drenewydd (Byddin yr Iachawdwriaeth)
- Croesoswallt a'r Gororau
- Rhaeadr Gwy
- Y Trallwng
- Ystradgynlais
Dywed y Cyng. Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys ac Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Rwyf yn hynod falch ein bod wedi gallu helpu ein banciau bwyd, sydd yn anffodus, yn wynebu galw cynyddol, trwy ddosbarthu'r grant hwn.
"Maen nhw'n gwneud gwaith gwych o ran cefnogi rhai o bobl fwyaf bregus ein cymunedau, ac os oes angen eu cymorth arnoch chi, cofiwch gysylltu â nhw."
Ychwanegodd Tessa Bradley, rheolwr prosiect Banc Bwyd Llandrindod: "Gyda'r cynnydd mewn costau sy'n achosi trafferthion i bawb, mae'r rhoddion bwyd a dderbyniwyd gan Fanc Bwyd Llandrindod wedi gostwng yn sylweddol dros y misoedd diwethaf.
"Mae'r arian a dderbyniwyd trwy'r Gronfa Cymorth Bwyd Uniongyrchol wedi ein galluogi i brynu bwyd i lenwi'r bylchau, ac rydym yn parhau i allu rhoi bwyd i'r nifer gynyddol o bobl sy'n cael eu hatgyfeirio atom.
"Heb yr arian yma, byddai'n rhaid inni gyfyngu'r bwyd sydd ym mhob parsel, a lleihau'r amrywiaeth yn ogystal â'r maint. Diolch yn fawr!"
Yn ôl Rob Field, rheolwr prosiect Banc Bwyd Y Trallwng a'r Ardal: "Roedd y Cyllid Cymorth Bwyd Uniongyrchol yn llinell bywyd i'n banc bwyd ni. Roeddem wedi gweld gostyngiad yn ein rhoddion bwyd yn ddiweddar, a chynnydd mewn atgyfeiriadau o ryw 20% felly, roedd y grant yn ein galluogi i gynyddu ein capasiti i gefnogi unigolion a theuluoedd bregus yng ngogledd Powys."
Mae manylion banciau bwyd Powys a chymorth arall sydd ar gael i drigolion sy'n cael trafferthion, ar gael trwy Hwb Costau Byw'r Cyngor: Hwb Costau Byw
LLUN: Gwirfoddolwyr yn creu parseli bwyd ym Manc Bwyd Llandrindod. Llun: Banc Bwyd Llandrindod