Cyfle i drigolion pedair cymuned gael band eang gwibgyswllt
28 Tachwedd 2023
Openreach sy'n trefnu'r cynllun ac mae'n ofynnol bod preswylwyr a busnesau yn Llanwrtyd, Maesyfed, Aberriw a Llanrhaeadr ym Mochnant sydd am gyflymder pori cyflymach, wneud cais am Dalebau Gigabit Llywodraeth DU a fydd yn cael eu defnyddio i helpu i ariannu estyn ei rwydwaith ffibr llawn.
Mae rhagor o wybodaeth am brosiect Openreach ar gael yma: https://www.openreach.com/news/more-welsh-communities-urged-to-seize-chance-to-secure-ultrafast-broadband/
Gall preswylwyr a busnesau yn y pedair cymuned wirio a ydynt yn gymwys drwy nodi eu cod post ar wefan Openreach: Cysylltu Fy Nghymuned https://www.openreach.com/connectmycommunity
Ni fydd defnyddio Talebau Gigabit Llywodraeth DU i helpu i dalu am adeiladu yn costio unrhyw beth i breswylwyr a busnesau, ond bydd rhaid iddyn nhw ymrwymo i archebu gwasanaeth ffibr llawn oddi wrth ddarparwr o'u dewis am o leiaf 12 mis pan fydd y rhwydwaith newydd ar gael a chadarnhau bod cyswllt ganddynt.
Mae rhagor o wybodaeth am Dalebau Gigabit Llywodraeth DU yma: https://gigabitvoucher.culture.gov.uk/
Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Cysylltu Powys: "Mae hwn yn gyfle gwych i gartrefi a busnesau'r pedair cymuned hon gael mynediad at rwydwaith ffibr llawn cyflymach sydd yn aml ar gael mewn ardaloedd mwy trefol yn unig.
"Mae cynifer â 1,351 o eiddo yn Llanwrtyd, Maesyfed, Aberriw a Llanrhaeadr ym Mochnant yn gymwys, ond dim ond os fydd digon o bobl yn arwyddo ac addo eu talebau i'r cynllun, y bydd Openreach yn gallu eu cysylltu."
Am ragor o wybodaeth am y prosiect hwn neu gyfleoedd band eang cyflym iawn eraill ym Mhowys, e-bostiwch: broadband@powys.gov.uk