Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwobr ddiogelwch i bartneriaeth Sioe Frenhinol Cymru

Builth Wells Events Safety Group

11 Rhagfyr 2023

Builth Wells Events Safety Group
 Mae partneriaeth sy'n cefnogi diogelwch ymwelwyr yn ystod Sioe Frenhinol Cymru wedi ennill gwobr genedlaethol.

Cafodd gwaith Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt ei gydnabod gan y beirniaid, gyda'r grŵp yn ennill categori diogelwch y cyhoedd yn nigwyddiad cyntaf Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel, a oedd yn cael ei gynnal gan Rwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru.

Cynhaliwyd y gwobrau ddydd Iau 30 Tachwedd yn Abertawe o dan ofal Lyn Bowles o BBC Radio Wales a BBC Radio 2, a rhoddwyd cydnabyddiaeth i gyfraniadau rhagorol o ran diogelwch cymunedol mewn cyd-destun aml-asiantaethol.

Cafodd y grŵp diogelu ei ffurfio yn 2017 a'i arwain gan Gyngor Sir Powys ac mae'n cynnwys 14 o sefydliadau â'r nod o leihau risg gyhoeddus a gwella diogelwch y rheini yn Llanfair-ym-Muallt a'r cylch yn ystod cyfnod y Sioe Fawr. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, cyflwynwyd mesurau i'r dref i gefnogi diogelwch, fel,

  • Taith gerdded ddiogel o'r enw Llwybr Gwyrdd 
  • Canolfan feddygol a lles o'r enw Pwynt Helpu, sy'n cael ei gweithredu gan Ambiwlans Sant Ioan Cymru o Neuadd y Strand
  • Pwynt Helpu 'Pop up' sy'n darparu cyfarwyddyd a chymorth lles, dan weithrediad Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Powys o'r Groe
  • Cymorth lles i'w ddarparu gan Fugeiliaid Stryd a Gweithwyr Ieuenctid gyda'r nos
  • Bydd blychau amnest ar gyfer cyffuriau yn cael eu gosod wrth agosáu at leoliadau digwyddiadau yn Llanfair-ym-Muallt a'r cylch
  • Ymgyrch gyfathrebu sy'n annog pobl ifanc i Gael Hwyl, Cymryd Gofal a Chadw'n Ddiogel, gan hyrwyddo diwylliant yfed yn fwy iach, gwirio eich ffrindiau ac ymddygiad cyfrifol, mewn ffordd greadigol a doniol.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Hoffwn longyfarch yn bersonol, Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt, am eu llwyddiant yn nigwyddiad cyntaf Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel.

"Rwy'n hynod o falch fod gwaith y grŵp wedi cael cydnabyddiaeth. Mae pob partner yn chwarae ei ran hanfodol ei hun i helpu i sicrhau diogelwch yr holl ymwelwyr boed hynny wrth aros am y sioe i ddechrau neu drwy gydol yr wythnos, felly llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran!"

Dywedodd Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru : "Rwyf wrth fy modd fod Grŵp Diogelu Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt wedi cael cydnabyddiaeth am ei waith da. Mae hyn yn wirioneddol ddangos yr hyn y gallwch ei gyflawni pan fydd gwahanol sefydliadau, asiantaethau a busnesau yn gweithio gyda'i gilydd. Mae diogelwch yn hynod o bwysig i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ac felly rydym ni'n falch o'r hyn mae'r grŵp wedi ei gyflawni. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i'r Cadeirydd, Dr Greg Langridge-Thomas, am ei arweinyddiaeth a'i gefnogaeth ardderchog.