Gwobr ddiogelwch i bartneriaeth Sioe Frenhinol Cymru
11 Rhagfyr 2023
Cafodd gwaith Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt ei gydnabod gan y beirniaid, gyda'r grŵp yn ennill categori diogelwch y cyhoedd yn nigwyddiad cyntaf Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel, a oedd yn cael ei gynnal gan Rwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru.
Cynhaliwyd y gwobrau ddydd Iau 30 Tachwedd yn Abertawe o dan ofal Lyn Bowles o BBC Radio Wales a BBC Radio 2, a rhoddwyd cydnabyddiaeth i gyfraniadau rhagorol o ran diogelwch cymunedol mewn cyd-destun aml-asiantaethol.
Cafodd y grŵp diogelu ei ffurfio yn 2017 a'i arwain gan Gyngor Sir Powys ac mae'n cynnwys 14 o sefydliadau â'r nod o leihau risg gyhoeddus a gwella diogelwch y rheini yn Llanfair-ym-Muallt a'r cylch yn ystod cyfnod y Sioe Fawr. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, cyflwynwyd mesurau i'r dref i gefnogi diogelwch, fel,
- Taith gerdded ddiogel o'r enw Llwybr Gwyrdd
- Canolfan feddygol a lles o'r enw Pwynt Helpu, sy'n cael ei gweithredu gan Ambiwlans Sant Ioan Cymru o Neuadd y Strand
- Pwynt Helpu 'Pop up' sy'n darparu cyfarwyddyd a chymorth lles, dan weithrediad Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Powys o'r Groe
- Cymorth lles i'w ddarparu gan Fugeiliaid Stryd a Gweithwyr Ieuenctid gyda'r nos
- Bydd blychau amnest ar gyfer cyffuriau yn cael eu gosod wrth agosáu at leoliadau digwyddiadau yn Llanfair-ym-Muallt a'r cylch
- Ymgyrch gyfathrebu sy'n annog pobl ifanc i Gael Hwyl, Cymryd Gofal a Chadw'n Ddiogel, gan hyrwyddo diwylliant yfed yn fwy iach, gwirio eich ffrindiau ac ymddygiad cyfrifol, mewn ffordd greadigol a doniol.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Hoffwn longyfarch yn bersonol, Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt, am eu llwyddiant yn nigwyddiad cyntaf Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel.
"Rwy'n hynod o falch fod gwaith y grŵp wedi cael cydnabyddiaeth. Mae pob partner yn chwarae ei ran hanfodol ei hun i helpu i sicrhau diogelwch yr holl ymwelwyr boed hynny wrth aros am y sioe i ddechrau neu drwy gydol yr wythnos, felly llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran!"
Dywedodd Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru : "Rwyf wrth fy modd fod Grŵp Diogelu Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt wedi cael cydnabyddiaeth am ei waith da. Mae hyn yn wirioneddol ddangos yr hyn y gallwch ei gyflawni pan fydd gwahanol sefydliadau, asiantaethau a busnesau yn gweithio gyda'i gilydd. Mae diogelwch yn hynod o bwysig i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ac felly rydym ni'n falch o'r hyn mae'r grŵp wedi ei gyflawni. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i'r Cadeirydd, Dr Greg Langridge-Thomas, am ei arweinyddiaeth a'i gefnogaeth ardderchog.