Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cabinet i ystyried adroddiad ymgynghoriad ysgol Llangedwyn

Image of a primary school classroom

13 Rhagfyr 2023

Image of a primary school classroom
Mae'n bosibl y gallai ysgol gynradd fach iawn yng Ngogledd Powys gau os gaiff Cabinet argymhelliad sy'n cael ei gymeradwyo, yn ôl y cyngor sir.

Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig cau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru, Llangedwyn ac mae'r cyngor wedi cyflawni ymgynghoriad chwe wythnos ar y cynnig rhwng misoedd Hydref a Thachwedd 2023. Caiff canfyddiadau'r ymgynghoriad eu hystyried gan Cabinet ddydd Mawrth, Rhagfyr 19.

Bydd Cabinet hefyd yn derbyn cais i barhau â'r broses o gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn, sydd â saith disgybl yn unig ar hyn o bryd.

Os fydd y cyngor yn cael caniatâd, fe fydd yn cyhoeddi hysbysiad statudol a fydd yn cynnig y newid yn ffurfiol. Yna, yn dilyn hynny, byddai'n ofynnol ystyried adroddiad arall i ddod â'r broses i ben.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Hoffai'r cyngor ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ymarferiad yr ymgynghoriad ar gyfer y cynnig hwn.

"Ar ôl ystyried holl ymatebion yr ymgynghoriad yn ofalus, fe fydd Cabinet yn ystyried yr argymhelliad o barhau â'r cynnig drwy gyhoeddi hysbysiad statudol sy'n cynnig cau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn yn ffurfiol.

"Byddai'r cynnig yn mynd i'r afael â'r niferoedd isel sydd yn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn, ac fe fyddai'n cynyddu'r nifer o ddisgyblion yn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanfechain. Byddai'r cynnig hefyd yn lleihau'r capasiti sydd dros ben yn gyffredinol mewn ysgolion cynradd.

Er mwyn darllen strategaeth y cyngor i Drawsnewid Addysgu 2020-2023 a manylion Rhaglen Trawsnewid Addysg - Ton 2 (2022-2027) ewch i Trawsnewid Addysg