Cynllun i helpu'r digartref ym Mhowys yn dechrau cael effaith gadarnhaol
14 Rhhagfyr 2023
Ym mis Awst, gwnaeth Cyngor Sir Powys fabwysiadu ei Gynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym, sy'n gosod allan sut fydd y cyngor, ynghyd ag asiantaethau eraill gan gynnwys cymdeithasau tai yn gweithio ynghyd dros y pum mlynedd nesaf i atal digartrefedd; a phan na fydd hynny'n bosibl, symud pobl mor gyflym ag sy'n bosibl o lety dros dro i setlo mewn cartref sefydlog.
Fel rhan o'r cynllun, mae'r cyngor wedi cyflwyno gwasanaeth brysbennu'r digartref. Yn ystod y pwynt cyswllt cyntaf hwn â'r gwasanaeth, mae swyddog tai yn darparu cyngor amserol, pan fydd rhywun ar fin dyfod yn ddigartref, i edrych mewn i'r holl opsiynau sydd ar gael, cytuno ar weithredu i ddiwallu anghenion cymorth cyfredol sydd heb eu diwallu, a pharhau â'r llety presennol ble bynnag y bo'n bosibl.
Elfen arall o'r cynllun yw bod teuluoedd digartref yn cael llety dros dro addas yn cael ei drosi, ble y bo'n bosibl, i denantiaeth barhaol. Mae 122 o deuluoedd digartref wedi elwa o'r dull gweithredu hwn gyda 40 pellach yn y broses o gael eu llety dros dro yn cael ei drosi i fod yn gontract tenantiaeth diogel.
Cafodd hyn effaith gadarnhaol, sydd wedi gweld achosion o'r digartref yn lleihau gan 22.2% - o 519 i 404 rhwng mis Gorffennaf 2022 a mis Tachwedd 2023. Mae'r nifer o achosion digartref statudol hefyd wedi lleihau yn ystod yr un cyfnod, o 370 i 263 - gostyngiad o 28.9%
Mae arian cyfalaf hefyd wedi ei sicrhau ar gyfer dwy 'ganolfan brysbennu 24/7 mynediad ar unwaith' ble y gallai pobl fynd iddynt i chwilio am help a chael eu hanghenion wedi eu hasesu, dau 'gynllun llety â chymorth dros dro 24/7' i ddarparu cartrefi hunan gynhaliol i'r rheini ag anghenion cymhleth ac na allant fyw'n annibynnol ar unwaith yn y gymuned ac ar gyfer 20 uned modwlar ar gyfer llety dros dro.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Mae cyflwyno'r Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym wedi dechrau gwneud gwahaniaeth wrth i ni weithio i geisio lleihau a datrys digartrefedd yn y sir.
"Elfen allweddol o'r cynllun yw sefydlu'r canolfannau brysbennu, cynlluniau llety â chymorth ac unedau modwlar. Mae sicrhau arian cyfalaf ar gyfer y cynlluniau hyn yn gam cadarnhaol ymlaen am y bydd yn helpu'r cyngor i gwtogi costau dros amser drwy leihau'r angen i ddefnyddio darparwyr gwely a brecwast ar gyfer llety dros dro, sy'n gostus iawn."