Tîm partneriaeth sy'n helpu pobl i gael mynediad at ofal iechyd digidol yn ennill gwobr
14 Rhagfyr 2023
Mae Gwasanaeth Byw'n Dda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi derbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith ar y cyd â gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Sir Powys a phartneriaid eraill er mwyn helpu pobl i gael mynediad at ofal trwy ddefnyddio technoleg ddigidol.
Mae'r gwasanaeth wedi ennill categori Partneriaeth a Chydweithio yng ngwobrwyon Rhagoriaeth Staff Bwrdd Iechyd Addysgu Powys eleni. Mae'r gwasanaeth Byw'n Dda'n cefnogi pobl sy'n dioddef o effeithiau cyflyrau hirdymor, boed hynny'n golygu poen cyson, blinder cronig neu broblemau gyda rheoli pwysau. Mae'r wobr yn cydnabod gwaith ar draws y partneriaid i helpu sicrhau na chaiff unrhyw un ei allgáu rhag gwasanaethau iechyd digidol.
Mae'r timau wedi cydweithio dros gyfnod o ddwy flynedd, ac wedi sefydlu ffordd i staff y bwrdd iechyd atgyfeirio pobl sydd angen cael mynediad at gysylltedd digidol yn uniongyrchol at y gwasanaeth llyfrgelloedd. Mae'r broses syml hon yn galluogi pobl i gael mynediad at gymorth ar adeg ac mewn lle sydd mwyaf cyfleus iddyn nhw.
Mae Hwyluswyr Digidol Byw'n Dda yn canolbwyntio ar helpu pobl i fagu hyder er mwyn cysylltu ag apwyntiadau rhithiol ar-lein a meithrin sgiliau digidol sylfaenol i alluogi pobl i fanteisio i'r eithaf ar eu hapwyntiadau iechyd. Mae'r gwasanaeth llyfrgelloedd yn cynnig mynediad rhwydd a chymorth o ran defnyddio dyfeisiau iPad gyda chysylltiadau data ac mae Hygyrchedd Powys yn ymweld â phobl yn eu cartrefi lle bo hynny'n fwyaf priodol, i'w helpu cysylltu.
Hyd yn hyn mae'r cynllun wedi helpu dros 80 o bobl i gael mynediad at apwyntiadau rhithiol, na fyddai wedi bod yn bosibl iddynt eu mynychu fel arall - o asesiadau 1-1 i raglenni clinigol hirach. Mae clinigwyr yn gweithio gyda chleifion i'w hatgyfeirio at y cynllun, a sicrhau y caiff dyfeisiau eu dosbarthu heb warthnod, neu unrhyw gyfeiriad at eu hanghenion meddygol.
Yn ôl Kirsty Williams Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys: "Mae Gwasanaeth Byw'n Dda Powys wedi derbyn cydnabyddiaeth am wirioneddol chwalu'r rhwystrau ar draws sefydliadau er mwyn gwneud bywyd yn haws i ddefnyddwyr gwasanaeth. Mae'r pellter y mae'n rhaid inni deithio ym Mhowys yn gallu bod yn heriol, yn enwedig i bobl sy'n methu teithio o gwmpas y sir yn rhwydd, neu sydd heb fynediad at gysylltedd digidol.
"Mae'r holl wasanaethau wedi cydweithio er mwyn cyflawni gwaith anhygoel i helpu goresgyn yr ynysigrwydd a'r her yma. Llwyddwyd i wneud hyn trwy fagu hyder digidol, helpu pobl i gymryd y camau angenrheidiol, a'r angen i fyw bywyd mwy gwerth chweil."
Er bod cymorth ar gael yn uniongyrchol trwy bob un o'r tri sefydliad unigol, mae'r bartneriaeth wedi sicrhau fod cael mynediad at gymorth mor rhwydd â phosibl i ddefnyddwyr gwasanaeth, gan alluogi'r cynnig cymorth gweithredol gyda'r dechnoleg ochr yn ochr â threfnu apwyntiadau clinigol.
Mae'r holl gymorth a gynigir ar gael am ddim, ac mae ar gael i unrhyw un sy'n ymgysylltu â'r bwrdd iechyd, waeth beth yw'r cyflwr iechyd sydd ganddynt neu eu hincwm.
Fel arfer ceir hyd i wybodaeth ynghylch cael mynediad at gymorth digidol ar gyfer apwyntiadau iechyd yn eich llythyr gyda manylion eich apwyntiad, neu'r pecyn gwybodaeth a anfonir atoch. Hefyd mae'r wybodaeth ar gael ar wefan BIAP: Hafan - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Mae gwybodaeth am lyfrgelloedd Powys, gan gynnwys yr ystod o adnoddau digidol sydd ar gael trwyddynt, ar gael ar wefan Stori Powys: StoriPowys neu drwy alw heibio eich llyfrgell leol. Os hoffech fenthyg iPad gan Wasanaeth Llyfrgelloedd Powys heb atgyfeiriad, gellir ebostio: library@powys.gov.uk.'