Y Cyngor yn cyflwyno rhybudd am niwsans sŵn cyfarth cŵn
15 Rhagfyr 2023
Mae Tîm Diogelu'r Amgylchedd Cyngor Sir Powys wedi cyflwyno rhybudd ar ôl erlyn preswyliwr yn llwyddiannus yng Ngogledd Powys am fynd yn erbyn Hysbysiad Atal Sŵn mewn perthynas â chŵn yn cyfarth.
Cafodd y preswyliwr ddirwy o £500 am fynd yn erbyn yr Hysbysiad Atal Sŵn a chael gorchymyn i dalu costau o £450 a £200 o dâl ychwanegol i'r dioddefwr gan Lys Ynadon Llandrindod yn gynharach y mis hwn (Rhagfyr).
Dechreuodd y cwynion am yr achos hwn yn gyntaf yn 2001, ac yn dilyn ymchwiliadau gan y Cyngor Sir cyflwynwyd Hysbysiad Atal Sŵn i'r preswyliwr.
Er gwaethaf hyn fe wnaeth y preswyliwr barhau i ganiatáu i'w gi gyfarth am gyfnodau hir, gan aflonyddu ar gymdogion cyfagos. Cofnododd swyddogion Tîm Diogelu'r Amgylchedd achosion o dorri'r hysbysiad atal ar bedwar achlysur gwahanol, a chan fod y preswyliwr wedi methu ag ymgysylltu a datrys y mater, erlynwyd ef yn y Llys Ynadon.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Powys Mwy Diogel: "Dylai preswylwyr allu byw yn eu cartrefi eu hunain heb gael eu heffeithio'n ddifrifol gan niwsans sŵn di-ildio parhaus.
"Er gwaethaf cael gwybod am y niwsans sŵn hwn gan y cyngor ar sawl achlysur, parhaodd y diffynnydd i ganiatáu i'w gŵn cyfarth ac achosi niwsans i gymdogion.
"Mae'r erlyniad llwyddiannus hwn yn ein hatgoffa o'r angen i ystyried cymdogion ac na fyddwn yn oedi cyn gweithredu yn erbyn y rhai sy'n effeithio'n negyddol ar fywydau pobl eraill."