Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Cyngor yn cyflwyno rhybudd am niwsans sŵn cyfarth cŵn

Image of a dog barking

15 Rhagfyr 2023

Image of a dog barking
Gallai perchnogion cŵn ym Mhowys sy'n caniatáu i'w hanifeiliaid anwes beri niwsans sŵn, wynebu camau gorfodi, yn ôl rhybudd gan y cyngor sir.

Mae Tîm Diogelu'r Amgylchedd Cyngor Sir Powys wedi cyflwyno rhybudd ar ôl erlyn preswyliwr yn llwyddiannus yng Ngogledd Powys am fynd yn erbyn Hysbysiad Atal Sŵn mewn perthynas â chŵn yn cyfarth.

Cafodd y preswyliwr ddirwy o £500 am fynd yn erbyn yr Hysbysiad Atal Sŵn a chael gorchymyn i dalu costau o £450 a £200 o dâl ychwanegol i'r dioddefwr gan Lys Ynadon Llandrindod yn gynharach y mis hwn (Rhagfyr).

Dechreuodd y cwynion am yr achos hwn yn gyntaf yn 2001, ac yn dilyn ymchwiliadau gan y Cyngor Sir cyflwynwyd Hysbysiad Atal Sŵn i'r preswyliwr.

Er gwaethaf hyn fe wnaeth y preswyliwr barhau i ganiatáu i'w gi gyfarth am gyfnodau hir, gan aflonyddu ar gymdogion cyfagos.  Cofnododd swyddogion Tîm Diogelu'r Amgylchedd achosion o dorri'r hysbysiad atal ar bedwar achlysur gwahanol, a chan fod y preswyliwr wedi methu ag ymgysylltu a datrys y mater, erlynwyd ef yn y Llys Ynadon.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Powys Mwy Diogel: "Dylai preswylwyr allu byw yn eu cartrefi eu hunain heb gael eu heffeithio'n ddifrifol gan niwsans sŵn di-ildio parhaus.

"Er gwaethaf cael gwybod am y niwsans sŵn hwn gan y cyngor ar sawl achlysur, parhaodd y diffynnydd i ganiatáu i'w gŵn cyfarth ac achosi niwsans i gymdogion.

"Mae'r erlyniad llwyddiannus hwn yn ein hatgoffa o'r angen i ystyried cymdogion ac na fyddwn yn oedi cyn gweithredu yn erbyn y rhai sy'n effeithio'n negyddol ar fywydau pobl eraill."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu