Dyfarnu £420mil i 17 sefydliad i 'wneud gwahaniaeth'
2 Ionawr 2024
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) sydd wedi dosbarthu cyllid Cronfa Gwneud Gwahaniaeth Powys, ar ran Partneriaeth Leol Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys (SPF).
Mae'r prosiectau sydd wedi derbyn y cyllid yn cynnwys un a fydd yn creu ac yn cyflwyno digwyddiadau celf ar y cyd ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2024, sydd i'w chynnal ym Meifod, ac un arall i sefydlu a hyrwyddo llwybrau treftadaeth yn Ystradgynlais, sy'n gysylltiedig â'r ffoadur a'r artist Iddewig enwog, Josef Herman, a lwyddodd i gael hyd i loches yn y dref ar ôl ffoi Gwlad Pwyl, ei wlad enedigol.
Hefyd mae cyllid ar gyfer cynllun yn Y Drenewydd, sy'n dysgu pobl sut i dyfu a choginio eu bwyd eu hunain ar gyllideb, wrth ymateb i'r argyfwng costau byw, ac ar gyfer cynlluniau i greu gardd gymunedol yng Nghrughywel, er mwyn cynyddu bioamrywiaeth.
"Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu cefnogi cymaint o elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau gwirfoddol, a phob un ohonynt yn gweithio'n galed i wneud Powys yn lle gwell i fyw ynddo ac ymweld ag ef, diolch i grantiau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU," meddai Clair Swales, Prif Weithredwr PAVO. "Roedd y sefydliadau llwyddiannus wedi gwneud yn dda iawn i ddod trwy broses bidio hynod gystadleuol, oedd yn golygu fod gan yr panel aml-asiantaeth oedd yn gyfrifol am eu hasesu, ddigon o waith meddwl.
"Rwyf yn edrych ymlaen nawr at weld cynnydd pob un o'r prosiectau llwyddiannus dros y 12 mis nesaf, dan arweiniad swyddogion datblygu PAVO."
Mae'r prosiectau llwyddiannus fel a ganlyn:
- Deall y Dail, £61,765, ar gyfer Llais y Goedwig, i helpu cynnwys gwirfoddolwyr sy'n ymhél â gwaith i wella coetiroedd ledled Powys.
- Gwell Gyda'n Gilydd, £48,769, ar gyfer Qube, ar gyfer gwaith ym maes sgiliau cymunedol yn Llanfyllin.
- Dathlu Trysorau Maldwyn, £33,778, ar gyfer Menter Iaith Maldwyn, er mwyn creu a chyflenwi digwyddiadau celf sy'n gysylltiedig ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Meifod 2024.
- Hyfforddiant a Gweithgareddau Cerdd Lifemusic, £27,883, i greu bît celf yn Aberhonddu, i ddod â hyfforddiant a sesiynau cerdd i gartref gofal yn y dref.
- Ein Llain, £27,673, ar gyfer Peak Cymru, i ddylunio a datblygu gardd gymunedol gyda phobl ifanc ar safle'r Hen Ysgol, Crughywel, gyda'r nod o gynyddu bioamrywiaeth.
- Flora Cultura, £27,673, i Flora Cultura, er mwyn rhedeg gweithgareddau garddio a chrefftau cysylltiedig gyda grŵp cymdeithasol yn Ysbyty Bronllys, gyda'r nod o wella llesiant.
- Astudiaeth Dichonoldeb Pensaernïol ar gyfer y Neuadd Les, Ystradgynlais, £25,000, i Ymddiriedolaeth Neuadd Les a Chymunedol Ystradgynlais Cyf i ystyried yr hyn sydd angen ei wneud i ddiogelu dyfodol hirdymor yr adeilad.
- Cwm Clyd - datgloi potensial, £25,000, i Ymddiriedolaeth Cwm Elan, ar gyfer astudiaeth dichonldeb ar y defnydd gorau ar gyfer yr adeiladau a ailwampiwyd.
- Dylunio Meysydd Natur a Chwarae Aberllynfi, £24,180, ar gyfer Grŵp Cymunedol Aberllynfi, i adolygu mannau gwyrdd a mannau chwarae'r pentref gyda'r nod o annog cymdeithasu, balchder lleol a llesiant.
- Cau'r Bwlch, £21,647, ar gyfer Ymddiriedolaeth Llety'r Barnwr i helpu gyda marchnata a hybu gwirfoddoli yn yr amgueddfa yn Llanandras.
- Cerflunio Efyrnwy, £19,313, ar gyfer Cyswllt Celf i gyflwyno prosiectau celf cymunedol yn Llyn Efyrnwy.
- Mynediad Estyn Allan i'r Gymuned, £18,435, ar gyfer Cyngor ar Bopeth Powys, i helpu cyrraedd trigolion mewn ardaloedd anghysbell.
- Tyfu Bwyd gyda'n Gilydd, £18,069, ar gyfer Cultivate, i ddysgu pobl sut i dyfu ffrwythau a llysiau, a sut i goginio ar gyllideb, ar safle'r gydweithfa yn Y Drenewydd, wrth ymateb i'r argyfwng costau byw.
- Gŵyl Ewyllys Da: Dathlu Treftadaeth Gyffredin Cymru a KwaZwlw Natal, £15,644, ar gyfer Cyfeillion Amgueddfa'r Gwarchodlu Cymreig i gefnogi gŵyl Zwlw pedwar diwrnod yn Aberhonddu ym mis Gorffennaf 2024.
- Adfywio'r Crown & Anchor, £10,000, ar gyfer LLANI Ltd, i ystyried opsiynau er mwyn troi'r hen dafarn yn adnodd i'r gymuned.
- Datblygu Llwybr Treftadaeth a Gwefan Sefydliad Josef Herman, £9,800, ar gyfer Sefydliad Josef Herman, i ddatblygu a hyrwyddo llwybrau treftadaeth yn ardal Ystradgynlais.
- Hyrwyddwr Tref Rhaeadr Gwy - ymgysylltu â'r gymuned, £5,832, ar gyfer Cyngor Tref Rhaeadr Gwy a Rhaeadr 2000 Ltd, i asesu'r angen ar gyfer hyrwyddwr y dref.
Mae Partneriaeth Leol SPF Powys yn cael ei chefnogi gan Dîm Adfywio Cyngor Sir Powys ac mae'n derbyn ei chyllid gan Lywodraeth y DU, fel rhan o'r rhaglen Ffyniant Bro.
Dywed y Cyng. David Selby, Aelod Cabinet y Cyngor ar gyfer Powys fwy Llewyrchus a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Leol SPF Powys: "Mae'r grantiau hyn yn helpu mynd i'r afael â'r blaenoriaethau ar gyfer buddsoddiad a nodwyd o dan thema Cymunedau a Lle Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar gyfer Powys: Cymunedau a Lle, Cludiant cymunedol, Treftadaeth Ddiwylliannol a Thwristiaeth, Gweithredu ar yr Hinsawdd, Costau Byw a Chysylltu Cymunedau (yn ddigidol neu fel arall). Maent hefyd yn ein helpu i wireddu ein nod o greu Powys gryfach, decach a gwyrddach, gyda chynlluniau ar hyd a lles y sir."
Ar gyfer unrhyw ymholiadau ynghylch Cronfa Gwneud Gwahaniaeth ym Mhowys, dylid cysylltu â PAVO'n uniongyrchol ar: grants@pavo.org.uk, neu drwy ffonio 01597 822191 neu 01686 626220.