Llanandras a Norton yn dod yn Lle Awyr Dywyll Rhyngwladol dynodedig
12 Ionawr 2024
Mae'r llwyddiant hwn yn ganlyniad i gydweithio unigryw rhwng y gymuned leol, Llanandras a Chyngor Tref Norton, Cyngor Sir Powys a Dark Source Lighting Design Studio, i ddilyn uchelgais awyr dywyll trwy fynd i'r afael â llygredd golau.
Meddai Maer Llanandras ac aelod lleol Cyngor Tref Norton a Chyngor Sir Powys, y Cynghorydd Beverley Baynham, "Mae'r gymuned gyfan yn Llanandras a Norton yn falch iawn o glywed bod ein hymgyrch chwe blynedd i ddod yn gymuned awyr dywyll wedi bod yn llwyddiannus.
"Mae wedi cymryd llawer o gydweithio ac ymrwymiad i gyrraedd y garreg filltir hon, ond rwy'n siŵr bod yr holl waith caled wedi bod yn werth chweil, ac mae'r gymuned eisoes yn gweld y manteision. Erbyn hyn mae gennym oleuadau deallus sy'n golygu bod ein holl oleuadau stryd wedi eu troi yn ôl ymlaen ond gyda bylbiau sy'n cydymffurfio ag Awyr Dywyll. Bydd hyn o fudd i breswylwyr sy'n byw yn y gymuned, yn ogystal â'r amgylchedd.
"Diolch i bawb sydd wedi gwneud hyn yn bosib."
Gweithiodd y gymuned leol a'r grŵp prosiect yn galed i sicrhau bod yr ardal yn bodloni'r safon uchel o feini prawf sydd eu hangen ar gyfer Lle Awyr Dywyll Rhyngwladol dynodedig. Meddai Arweinydd Cymunedol Awyr Dywyll Llanandras a Norton, Leigh-Harling Bowen, "Rydym wrth ein boddau gyda chanlyniad cais Llanandras a Norton i'r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol, i ddod yn gymuned awyr dywyll. Heb gefnogaeth a chydweithio ymroddedig Cyngor Tref Llanandras a Chyngor Tref Norton a Chyngor Sir Powys, ni fyddai erioed wedi digwydd.
"Mae'r Gymuned wedi gweithio'n ddygn i dynnu sylw at fanteision dod yn gymuned awyr dywyll, gan gynnwys buddsoddiad yn y defnydd o oleuadau stryd 'awyr dywyll' effeithlon, ynni isel sydd wedi lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr, ynghyd ag effaith fuddiol ar fywyd gwyllt, yn enwedig pryfed sy'n hedfan yn y nos, adar ac ystlumod. Canlyniad arall i'r gostyngiad mewn llygredd golau yw ein bod yn gallu gweld gogoniant awyr y nos yn glir, etifeddiaeth y bydd ein plant a'n hwyrion/wyresau yn parhau i'w mwynhau!"
Adnewyddwyd cyfanswm o 380 colofn oleuo yn yr ardal gyda goleuadau LED 2200K gyda mwyafrif helaeth yn gallu troi eu hunain i ffwrdd. Mae 40% o'r goleuadau wedi'u cynllunio i ddiffodd tra bod y 60% sy'n weddill wedi'u gosod i hanner eu dwyster ar ôl hanner nos. Wrth ddefnyddio proffiliau cyrffyw a phylu o'r fath, mae dwysedd golau a defnydd ynni wedi eu lleihau'n sylweddol tra bod hirhoedledd y goleuadau yn cael eu hymestyn.
Mae'r prosiect wedi lleihau allyriadau CO2 blynyddol yr ardal o 4.5 tunnell, ac mae hyn wedi cael ei hwyluso wrth ymestyn y cynllun i ystâd ddiwydiannol gyfagos o dan awdurdodaeth Llywodraeth Cymru fel bod natur y goleuadau yn gyson ar draws y dref.
Meddai'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Wyrddach,"Mae tîm priffyrdd y cyngor wedi bod yn gweithio'n galed ledled y sir i wneud gwelliannau ac effeithlonrwydd i'n goleuadau stryd.
"Drwy weithio gyda chymunedau lleol a grwpiau bywyd gwyllt, rydym yn gwneud cynnydd mawr o ran lleihau llygredd golau ac allyriadau carbon. Rydym hefyd yn sicrhau nad yw goleuadau'n effeithio'n andwyol ar lwybrau ystlumod nac ardaloedd bwydo dyfrgwn, a defnyddiwn dymheredd lliw o 2200K yn benodol ar gyfer ein goleuadau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag awyr dywyll ac yn garedig wrth natur.
"Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu helpu Llanandras a Norton i gyflawni statws cymunedol awyr dywyll: y cyntaf yng Nghymru a Lloegr, ac rydym yn gobeithio y bydd cymunedau lleol eraill ym Mhowys yn dilyn yr un esiampl ac yn hyrwyddo awyr dywyll yn y dyfodol."
LLUN: Awyr y nos uwchben Llanandras a Norton. Tynnwyd gan Leigh-Harling Bowen.