Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cabinet i ystyried adroddiad ymgynghori Ysgol G.G. Dyffryn Irfon

Image of a primary school classroom

18 Ionawr 2024

Image of a primary school classroom
Bydd ysgol gynradd fach yn Ne Powys yn cau os gaiff argymhelliad i'r Cabinet ei gymeradwyo, dywedodd y cyngor sir.

Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig cau Ysgol G.G. Dyffryn Irfon, ac fe gynhaliwyd ymgynghoriad chwe wythnos o hyd ar y cynnig rhwng misoedd Hydref a Rhagfyr 2023. Bydd canfyddiadau'r ymgynghoriad yn cael eu hystyried gan Cabinet ddydd Mawrth, 23 Ionawr.

Bydd Cabinet hefyd yn cael cais i barhau â'r broses o gau Ysgol G.G. Dyffryn Irfon, sydd â 18 o ddisgyblion ar hyn o bryd.

Os fyddant yn cael caniatâd i wneud hynny, bydd y cyngor yn cyhoeddi hysbysiad statudol a fydd yn cynnig y newid yn ffurfiol. Yna, mae'n bosibl y byddai'n ofynnol ystyried adroddiad arall i ddod â'r broses i ben.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Sy'n Dysgu: "Hoffai'r cyngor ddiolch i'r rheini a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ar gyfer y cynnig hwn.

"Ar ôl ystyriaeth ofalus i holl ymatebion yr ymgynghoriad; yr argymhelliad y bydd y Cabinet yn ei ystyried yw i barhau gyda'r cynnig drwy gyhoeddi'r hysbysiad statudol gyda'r cynnig ffurfiol o gau Ysgol G.G. Dyffryn Irfon.

"Mae'r gostyngiad o ran nifer o ddisgyblion wedi effeithio ar gynaliadwyedd addysgiadol ac ariannol yr ysgol ac mae angen mynd i'r afael â hyn.

"Byddai'r cynnig yn mynd i'r afael â'r broblem o niferoedd isel o ddisgyblion yn Ysgol G.G. Dyffryn Irfon. Byddai hefyd yn lleihau lleoedd gwag cyffredinol mewn ysgolion cynradd gan ddarparu arbediad refeniw i'r cyngor.

I ddarllen Strategaeth y cyngor ar gyfer Trawsnewid Addysg 2020-2032 a manylion Rhaglen Trawsnewid Addysg - Ton 2 (2022 - 2027) ewch i: Trawsnewid Addysg