19 Ionawr 2024
Yn ymateb i'r cynigion gan Nidec Control Techniques eu bod yn bwriadu cywiro eu capasiti gweithredol a fydd yn effeithio ar staff yn eu ffatri yn y Drenewydd a gallai arwain at golli hyd at 98 o swyddi, dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Ffyniannus: "Rydym yn naturiol yn pryderu am y cyhoeddiad a'r effaith bosibl ar unigolion a'r gymuned ehangach.
"Mae Nidec Control Techniques yn ased pwysig i Bowys a'i heconomi. Rydym yn monitro'r sefyllfa ac yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid i gefnogi'r rhai a fydd yn cael eu heffeithio gan y cynigion hyn."