Digwyddiad Lles Cymunedol
24 Ionawr 2024
Fel rhan o brosiect ar y cyd rhwng Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, cynhelir 'Digwyddiad Lles Cymunedol Ystradgynlais' ddydd Iau 8 Chwefror yn Y Neuadd Les, Ystradgynlais, ac ar gael i alw i mewn unrhyw bryd rhwng 10yb a 5yp.
Gyda nifer o sefydliadau ar gael mewn un lle, mae'r digwyddiad yn cynnig cyfle i drigolion Ystradgynlais gael sgwrs a rhannu eu profiadau, ond mae hefyd yn caniatáu i'r gymuned ddeall pa gymorth sydd ar gael iddynt.
Bydd y digwyddiad hwn yn lansio prosiect ehangach a fydd yn cynnwys digwyddiadau pellach, Canolfan Lles, yn ogystal ag arolwg lles y gellir ei gwblhau ar y diwrnod, gan alluogi trigolion i ddweud eu dweud a dylanwadu'n weithredol ar brosiectau yn yr ardal yn y dyfodol.
Mae'r sefydliadau sy'n cymryd rhan yn y digwyddiad yn cynnwys, PAVO, Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Heddlu Dyfed Powys, Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Freedom Leisure a mwy.
Meddai'r Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Powys Mwy Diogel: "Yn dilyn bron ddwywaith y cyfartaledd cenedlaethol o breswylwyr yn adrodd bod eu hiechyd eu hunain yn wael neu'n wael iawn, mae'n hanfodol ein bod yn cynnal digwyddiadau fel hyn, er mwyn caniatáu i drigolion ddweud eu dweud, fel y gallwn barhau i gefnogi ein cymunedau a darparu'r adnoddau cywir i helpu i wella iechyd ein preswylwyr."
Dywedodd Mererid Bowley, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Mae rhoi'r gorau i ysmygu yn un o'r pethau gorau y gallwch ei wneud i wella eich iechyd a hefyd un o'r pethau mwyaf anodd. Gyda chymorth pobl eraill, mae'n dod yn gymaint haws. Dewch draw i gwrdd â'r tîm i weld sut y gallant eich helpu. Cofiwch, nid yw rhoi'r gorau i ysmygu ar eich cyfer chi'n unig, ond mae'n helpu'ch ffrindiau a'ch teulu hefyd!"
Cynhelir y digwyddiad hwn fel rhan o brosiect parhaus i hyrwyddo pwysigrwydd iechyd a lles yn y gymuned.