Toglo gwelededd dewislen symudol

Sut rydym yn cyrraedd yno?

How will we get there
Close Carwsél oriel ddelwedd

Bydd yr ymagwedd Powys Gynaliadwy yn defnyddio'r egwyddorion canlynol i gynllunio gwasanaethau'r dyfodol:

  • Bod yn feddwl agored a cheisio cael atebion arloesol, gan ddefnyddio'r holl arbenigedd sydd ar gael
  • Cyflenwi'r deilliannau gorau posibl drwy drawsnewid i ddarparu gwasanaethau o well ansawdd
  • Defnyddio tystiolaeth - er mwyn deall angen yn well a modelu galw'r dyfodol, os nad ydym ni'n cael canlyniadau yna fe ddylem newid
  • Proses barhaus o ddysgu ac addasu i fodloni anghenion cyfredol a hir dymor yn gynaliadwy
  • Ymgysylltu'n gynnar gyda phobl wrth gytuno, dylunio a chyflenwi ymagweddau fel ein bod ni'n gwrando, deall, myfyrio a rhoi adborth
  • Mynd i'r afael â'r cwestiwn sylfaenol: pam ydym ni'n gwneud yr hyn a wnawn?
  • Ymagwedd strategol system gyfan, gyda phartneriaid, cymunedau a phobl Powys
  • Cyflenwi deilliannau sy'n fforddiadwy neu'n costio dim

Cynllunio Sy'n Seiliedig ar Le

Rydym ni'n archwilio a ellir defnyddio 'cynllunio sy'n seiliedig ar le' i ail-fodelu gwasanaethau llywodraeth leol yn y dyfodol.

Mae cynllunio sy'n seiliedig ar le yn rhannu'r sir i ardaloedd y gellir eu rheoli ar gyfer cynllunio gwasanaeth ac i weithio gyda chymunedau a phartneriaid.

Y mae'n fodd i ni wneud y canlynol mewn ffordd strategol:

  • Adolygu o bley r ydym ni'n darparu gwasanaethau
  • Sicrhau cydraddoldeb o ran darpariaeth ledled y sir
  • Cynllunio ein gwasanaethau mewn modd clir a chyson a lleihau costau

Y mae hefyd yn ein helpu ni i weithio gyda'n partneriaid i ehangu'r ymagwedd newydd hon ar draws y gwasanaethau cyhoeddus ehangach ac â phartneriaid trydydd sector (i leihau dyblygu ymdrech a lleihau costau)

Sut y byddai'n gweithio a beth sy'n cael ei ystyried?

Rydym yn defnyddio 'model ardal' ym Mhowys, gan ei rannu'n 13 ardal leol. Mae'r 13 ardal hyn yn ffitio i bum ardal graidd fwy yn seiliedig ar ein pum prif dref (y Trallwng, y Drenewydd, Llandrindod, Aberhonddu ac Ystradgynlais). Fel hyn, gallwn ni gynllunio gwasanaethau yn fwy effeithlon gyda'n gilydd."

Gwasanaethau craidd yn eich tref graidd

Er mwyn sicrhau bod mynediad teg, bydd "gwasanaethau craidd" yn cael eu darparu yn eich tref graidd. I dros 94% o drigolion, mae hyn yn llai na 40 munud o amser teithio ac i 64% o drigolion mae'n llai nag 20 munud o amser teithio.

Beth yw "gwasanaeth craidd"?

  • Pwynt mynediad i wasanaethau cwsmer
  • Apwyntiadau wyneb yn wyneb y gellir eu harchebu gyda staff y cyngor
  • Lle cyswllt i deuluoedd
  • Canolfan hamdden gyda phwll
  • Darpariaeth llyfrgell
  • Mynediad at galedwedd a rhyngrwyd cyfrifiadurol
  • Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi

Beth i'w ddisgwyl yn eich tref leol
Yn eich tref leol, bydd busnesau'n cael cymorth gyda chyngor cynllunio a rheoli adeiladu, casgliadau gwastraff masnach, grantiau busnes a chyngor, cymorth ac arolygiadau hylendid bwyd. Mae gan eich cyngor tref Gynllun Tref ac fe'i cefnogir i gyflawni'r newidiadau y mae eich cymuned am eu gweld

Eich cadw chi i symud
Gwell mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn ogystal â graeanu ffyrdd, cynnal a chadw priffyrdd, goleuadau stryd, llwybrau teithio llesol a hawliau tramwy

Yn dod atoch chi pan fyddwch ein hangen
Gwasanaethau'n agosach atoch chi, gan gynnwys casgliadau gwastraff ac ailgylchu, gofal yn y cartref a gwelliannau band eang, cyngor ac ymweliadau cynllunio a rheoli adeiladu

Mynediad ar-lein 24/7

Mae gwelliannau digidol yn golygu y gallwch gael mynediad at fwy o gyngor, cymorth a gwybodaeth ar-lein ar unrhyw adeg o'r dydd os ydych am wneud hynny. P'un ai i ofyn am wasanaeth, dod o hyd i wybodaeth neu wneud cais i weithio gyda ni.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu