Arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin i 8 o brosiectau i hybu sgiliau rhifedd oedolion ym Mhowys
26 Ionawr 2024
Cafodd y dyfarniadau eu gwneud gan Fwrdd Partneriaeth Lleol y Gronfa Ffyniant Gyffredin, o dan ei gynllun Lluosi (gwella sgiliau rhifedd).
Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am benderfynu sut y caiff yr ychydig dros £26 miliwn o arian CFfG ei wario, sy'n cael ei ddyrannu i Bowys ar gyfer 2022-25, gan Lywodraeth DU fel rhan o'i rhaglen Ffyniant Bro.
Mae Bwrdd Partneriaeth Lleol CFfG Powys yn cael ei gefnogi gan Dîm Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Sir Powys.
"Ein hamcanion o dan thema Lluosi (gwella sgiliau rhifedd) yw bod rhagor o oedolion yn cyflawni cymwysterau mathemateg neu gyfranogi mewn cyrsiau rhifedd, fel bod yna lai o fylchau sgiliau rhifedd yn cael eu hadrodd gan gyflogwyr, a chynnydd yn y gyfradd o oediolion sy'n mynd ymlaen at addysg neu gyflogaeth barhaus, a chynnydd mewn rhifedd oedolion ar draws y boblogaeth yn gyffredinol," dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Lleol CFfG Powys.
"Rydym ni am gefnogi dysgwyr sy'n oedolion i wella eu dealltwriaeth o fathemateg yn eu bywydau bob dydd, yn y cartref, ac yn y gwaith - ac i deimlo'n fwy hyderus wrth wneud hynny."
Ymhlith y prosiectau sydd wedi bod yn llwyddiannus o dan Lluosog (gan gynnwys gwella sgiliau rhifedd) mae:
- Rhifedd Mewn Iechyd, £310,317, i Grŵp Colegau NPTC gan weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar gyfer archwiliad sgiliau ac i ddarparu amrywiaeth o gyrsiau'n seiliedig ar fathemateg i staff.
- Symud Ymlaen, £191,700, ar gyfer Threshold DAS, i ddarparu mwy na 28 o gyrsiau a chymwysterau achrededig mewn amrywiaeth eang o bynciau'n berthnasol i rifedd, i bobl o gefndiroedd difreintiedig, y di-waith, y sawl sydd yn ynysedig yn gymdeithasol a'r sawl sydd mewn perygl o droseddu.
- Ehangu Sgiliau Rhifedd i Oedolion Di-waith, , £235,316, i Grŵp Gweithgynyrchu Canolbarth Cymru, i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi gan gynnwys cynorthwywyr addysgu mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Powys.
- Rhaglen Lluosi i Rieni Canolbarth Cymru, £235,495, ar gyfer Equal Education Partners,i ddarparu cyrsiau i rieni sydd am wella eu sgiliau mathemateg fel eu bod nhw'n gallu helpu eu plant neu gynorthwyo eu rhagolygon gyrfaol eu hunain.
- Money Mystery, £57,741, i The Family Place, ar gyfer cwrs ymarferol am arian i oedolion profiadol mewn gofal a gwibdaith dirgelwch.
- Cooking Counts, £156,020, i Gyngor Sir Powys, er mwyn rhedeg sesiynau yn ardaloedd mwyaf anghysbell y sir i hyrwyddo bwyta'n iach a thrafod technegau cyllidebu.
- Mae Rhifedd y Bwysig: Datblygu Rhifedd Effeithiol, £105,031, i Grŵp Colegau NPTC er mwyn helpu cyflogwyr i ddatblygu sgiliau rhifedd eu gweithlu drwy amrywiaeth o gyrsiau.
- Rhifedd yn y Cartref - Grymuso Rhieni, Gofalwyr a Gwarcheidwaid i Gefnogi Dysgu eu Plant, £242,418, i Grŵp Colegau NPTC er mwyn rhedeg cyrsiau i oedolion a fydd yn cynnwys Rhifyddeg Sylfaenol, Mathemateg Bob Dydd a Llythrennedd Ariannol.
Am ragor o wybodaeth am CFfG DU ym Mhowys, ewch i: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU neu e-bostio ukspf@powys.gov.uk
Mae Partneriaeth Lleol GFfG Powys yn cynnwys Cyngor Sir Powys, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Grŵp Colegau NPTC, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, Twristiaeth Canolbarth Cymru, Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru, Mudiad Sefydliadau Gwirfoddol, CFfI Cymru, NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, Siambrau Cymru, ac Un Llais Cymru.