Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ailgylchu ar ôl digwyddiad

events

Os ydych chi'n bwriadu cynnal sioe'r pentref neu ŵyl fawr, mae'n hynod bwysig meddwl sut byddwch yn delio gydag unrhyw wastraff. Mae unrhyw wastraff a gynhyrchir gan ddigwyddiad yn wastraff masnachol, ac fel trefnydd y digwyddiad, mae arnoch ddyletswydd gofal, yn unol â'r gyfraith, i sicrhau eich bod yn cael gwared ar y gwastraff yn y ffordd gywir.

Yn debyg i'r holl wastraff masnachol o gartrefi, bydd yn rhaid gwahanu'r eitemau y gellir eu hailgylchu o weddill y sbwriel, i'w casglu a'u cludo gan gwmni rheoli gwastraff cofrestredig.

Gellir dysgu rhagor ynghylch gwahanu'r gwastraff yn sgil eich digwyddiad yn yr adran ailgylchu yn y gweithle

Gellir dysgu rhagor am eich dyletswydd gofal ar gyfer gwastraff eich digwyddiad ar wefan CNC. [Cyfoeth Naturiol Cymru / Dyletswydd gofal gwastraff i sefydliadau (naturalresources.wales)

Mae rhestr o gwmnïau rheoli gwastraff cofrestredig gyda thrwyddedau cludo gwastraff, megis Ailgylchu Masnachol Powys ar gael ar wefan CNC. [Cyfoeth Naturiol Cymru / A oes gan safle ganiatâd, trwydded neu esemptiad (Cofrestr Gyhoeddus) (naturalresources.wales)

Lleihau gwastraff

Mae ailgylchu yn eich digwyddiad yn ofyniad cyfreithiol, fodd bynnag mae lleihau ac atal gwastraff yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach, er mwyn helpu lleihau eich effaith ar yr amgylchedd, ac efallai arbed arian.

Trwy chwilio ar-lein, ceir hyd i nifer fawr o syniadau o ran sut i gynllunio digwyddiad cynaliadwy, ond dyma ychydig o awgrymiadau cyflym i helpu lleihau gwastraff yn eich digwyddiad:

  • Cydweithio gyda phawb (stondinwyr, arlwywyr, ymwelwyr ac ati) yn y digwyddiad i leihau, ail-ddefnyddio ac ailgylchu.
  • Peidio cefnogi eitemau defnydd unigol/tafladwy (cofiwch fod y rhan fwyaf o eitemau plastig a pholystyren defnydd unigol wedi cael eu gwahardd bellach yng Nghymru).
  • Hyrwyddo eich digwyddiad fel un cynaliadwy ac annog ymwelwyr i helpu lleihau, ail-ddefnyddio ac ailgylchu.
  • Gofyn i bobl ddod â photeli yfed a mygiau teithio y gellir eu hail-ddefnyddio.
  • Cyflwyno cynllun blaendal a dychwelyd ar gyfer cwpanau, llestri a chyllyll a ffyrc y gellir eu hail-ddefnyddio.
  • Os yn bosibl, gofyn i bobl (stondinwyr, arlwywyr, ymwelwyr ac ati) fynd â'u gwastraff adref gyda nhw.
  • Peidio â chaniatáu rhyddhau balŵns neu lusernau i'r awyr.

Dod o hyd i gwmni cludo gwastraff cofrestredig

Mae'n rhaid gwahanu gwastraff ac ailgylchu a gynhyrchir yn eich digwyddiad yn unol â'r rheoliadau newydd ailgylchu yn y gweithle [Tab 3] a'u casglu gan gwmni rheoli gwastraff cofrestredig gyda thrwydded cludo gwastraff, megis Ailgylchu Masnachol Powys.

Gallwch gadarnhau a oes gan gwmni rheoli drwydded cludo gwastraff ar wefan CNC. Cyfoeth Naturiol Cymru / A oes gan safle ganiatâd, trwydded neu esemptiad (Cofrestr Gyhoeddus) (naturalresources.wales)

Cofiwch ofyn am nodyn trosglwyddo gwastraff gan eich cwmni rheoli gwastraff ar gyfer eich gwastraff a'ch ailgylchu, a'i gadw'n ddiogel am o leiaf dwy flynedd. Gweler yr adran Rheoli eich gwastraff am ragor o wybodaeth.

Biniau Ailgylchu ac arwyddion

A wnaiff eich dewis cwmni rheoli gwastraff yn darparu biniau ar gyfer eich digwyddiad? Os na, bydd angen ichi gael hyd i rai eich hunan ac ychwanegu arwyddion priodol.

Cofiwch y bydd rhaid gwahanu'r holl wastraff a'r ailgylchu i'r grwpiau/biniau canlynol:

  • Bwyd (NI CHANIATEIR unrhyw ddeunyddiau pecynnu, platiau, cyllyll a ffyrc neu napcynau)
  • Papur a cherdyn (gellir eu casglu gyda'i gilydd)
  • Gwydr
  • Metel, plastig a chartonau (gellir eu casglu gyda'i gilydd)
  • Gweddill y gwastraff (gwastraff na ellir ei ailgylchu)

Oni fyddwch eisiau wahanu'r holl wastraff ar ôl eich digwyddiad, gofalwch fod gennych flychau/binau ar wahân ar gyfer y mathau gwahanol o ailgylchu/gwastraff.

Ceisiwch grwpio'r biniau ailgylchu gyda'i gilydd, gydag arwyddion amlwg, i'w wneud yn rhwydd i bobl ailgylchu eu gwastraff yn y biniau cywir. Gofalwch fod gennych ddigon o finiau ar gyfer y digwyddiad, ac y gellir eu cadw'n daclus a'u gwagio pan fo angen.

Trwy ofalu fod yr holl finiau ac arwyddion yn edrych yn gyson, byddwch yn helpu ategu negeseuon ailgylchu yn y digwyddiad, a'i wneud yn rhwyddach i bobl adnabod ble a sut i ailgylchu. Cadwch eich gwybodaeth yn syml ac yn weledol er mwyn osgoi unrhyw rwystrau ieithyddol ac i'w wneud yn rhwyddach i bobl ddeall.

Gofalwch fod yr holl staff, arlwywyr a stondinwyr yn gwybod cyn y digwyddiad yr hyn y gellir ei ailgylchu, a ble i'w roi. Hefyd maent yn gallu helpu trwy gyfeirio cwsmeriaid ac ymwelwyr, neu drwy gael negeseuon syml ar eu stondinau ynghylch ailgylchu.

Os oes gennych ddigon o staff neu wirfoddolwyr, gellir cael wardeniaid gwastraff o gwmpas ardaloedd y biniau i roi cyngor a sicrhau y caiff gwastraff ei ailgylchu'n iawn.

Tacluso ar ôl digwyddiad

Bydd angen ichi dacluso unrhyw wastraff a gynhyrchir o ganlyniad i'r digwyddiad, gwahanu unrhyw ddeunyddiau i'w hailgylchu a chael gwared arnynt mewn ffordd briodol. Chi hefyd sy'n gyfrifol am lanhau unrhyw sbwriel sy'n cael ei chwythu tu allan i ffiniau uniongyrchol y digwyddiad. 

Os taw grŵp cymunedol ydych, hwyrach y byddwch yn gallu benthyg offer hel sbwriel ar gyfer eich digwyddiad gan un o hybiau casglu sbwriel Powys. Chwiliwch am eich hyb agosaf ar wefan Cadwch Gymru'n Daclus. Hybiau Codi Sbwriel - Keep Wales Tidy - Caru Cymru

Cysylltwch

Gall Ailgylchu Masnachol Powys ddarparu ystod o finiau ailgylchu a gwastraff ar gyfer eich digwyddiad, eu casglu a chael gwared ar yr holl wastraff ac ailgylchu a wahanwyd yn gywir. 

Os ydych chi'n cynllunio digwyddiad bach cymunedol neu ŵyl fawr, cofiwch gysylltu os hoffech dderbyn dyfynbris heb unrhyw ymrwymiad.

Ebost: commercial.recycling@powys.gov.uk 

Ffôn: 01597 810829