Gwobr Prentis y Flwyddyn i Sarah
![Sarah Price receiving award](/image/20124/Apprentice-of-the-Year-award-for-Sarah/standard.png?m=1707731426343)
12 Chwefror 2024
![Sarah Price receiving award](/image/20124/Apprentice-of-the-Year-award-for-Sarah/gi-responsive__100.png?m=1707731426343)
Cyflwynwyd yr anrhydedd i Sarah Price yn ystod seremoni wobrwyo ddydd Llun (5 Chwefror) yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2024.
Mae Sarah yn astudio yn y coleg am NVQ Lefel 3 ochr yn ochr â'i rôl fel Swyddog Cefnogi Prosiect ar gyfer Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau Cyngor Sir Powys.
Dywedodd: "Roedd yn sioc go iawn i dderbyn y wobr. Dechreuais y cwrs ym mis Tachwedd 2022 i ddatblygu fy sgiliau digidol a marchnata i gefnogi gwaith y gwasanaeth.
"Rydw i wedi mwynhau'n fawr a byddwn yn argymell dysgu yn y gwaith i bawb."
Cyflwynwyd Sarah ar gyfer y wobr gan ei thiwtor a chafodd ei dewis oherwydd ei 'hymroddiad' a'r ffordd y 'rhoddai'r hyn roedd hi'n ei ddysgu ar waith'.
Wrth gyflwyno'r wobr yn y seremoni, dywedodd cyflwynydd chwaraeon y BBC, Ross Harris: "Mae Sarah yn ymgorffori ysbryd dysgu ac arloesi diwyro, gan osod esiampl ryfeddol i ddarpar brentisiaid."
Capsiwn Llun: Mae Sarah yn derbyn ei gwobr gan Paul Kift, Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.