Rydym ni'n maethu fel teulu - stori Hannah ac Ed
12 Chwefror 2024
Gwnaeth Hannah, ei gŵr Ed, a'u pump o blant wneud ymholiadau am faethu yn gyntaf yn union cyn y cyfnod clo cyntaf, ond yna penderfynu nad oedd yr amser yn iawn iddyn nhw bryd hynny. Roedden nhw am i'w plentyn ieuengaf gael cyfle i ddatblygu ei hyder ei hun cyn iddyn nhw ddechrau maethu. Roedden nhw'n glir o'r dechrau y bydden nhw'n maethu fel teulu ac mae taith y bydden nhw'n ei gwneud gyda'i gilydd fyddai maethu.
Mae Hannah yn rhedeg darpariaeth cyn ysgol ac mae Ed yn athro. Fel rhan o'u gwaith mae'r ddau yn dod ar draws plant y maen nhw'n gwybod sydd ag angen help. Gwnaethon nhw benderfynu mai'r peth gorau y bydden nhw'n gallu ei wneud fyddai ceisio creu newid a chynnig cymorth gwirioneddol ystyrlon fel gofalwyr maeth.
Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, wrth weithio'n llawn amser yn ogystal ag addysgu eu plant eu hunain gartref, penderfynodd y teulu o ganolbarth Powys barhau gyda'u taith o faethu.
Dywedodd Hannah: "Roedden ni yn y sefyllfa freintiedig o fod â'r gallu a'r gwagle i edrych ar ôl plentyn arall. Mae llawer o wagle awyr agored gennym ni ac rydym ni'n dau yn cael gwyliau ysgol yn y cartref. Mae dau o'n plant wedi mynd i'r brifysgol ac mae'r tri arall, sydd yn eu harddegau bellach, wedi bod yn rhan o'r broses asesu o'r dechrau ac yn rhan o'r gofalu am y plant a ddaeth i aros.
"I ddechrau, roedd dau fachgen bach gyda ni a ddaeth i aros am benwythnos ond roedd un yr un oed â'n plentyn ieuengaf felly wnaeth hynny ddim gweithio. Gwnaeth hyn gadarnhau ein meddyliau gwreiddiol sef y byddai unrhyw blant y bydden ni'n gofalu amdanynt yn iau na'n plentyn ieuengaf.
"Yna, daeth bachgen bach i aros gyda ni, ac mae e wedi bod gyda ni ers dwy flynedd a hanner bellach. Mae yna adegau pan fydd e'n parhau i wthio'r ffiniau, ond gyda chefnogaeth mae e bellach yn dysgu sut i ymdopi â sefyllfaoedd newydd ac mae e wedi setlo'n dda i fywyd teuluol. Y cynllun cyfredol yw iddo aros gyda ni am yr hir dymor.
"Yn ddiweddar, daeth plentyn arall i ymuno â ni. Mae'r bachgen bach yn wirioneddol hoffi plant iau a gwnaethon nhw ddod yn ffrindiau ar unwaith. Yn ddiweddar, aethon ni am drip dydd i fferm leol, sef profiad a oedd yn anodd iddo y llynedd, pan aeth am y tro cyntaf. Roedd hi'n stori wahanol a gwnaeth e ymdopi'n dda iawn, gan ddweud wrth y ferch fach ei fod wedi bod o'r blaen a dangos iddi beth i'w wneud."
Cyngor Hannah i unrhyw un sy'n ystyried maethu yw i fod yn realistig a gwybod beth yw eich sgiliau penodol chi. "Maethu yw un o'r pethau anoddaf y byddwch chi'n ei wneud erioed ond fe fydd hefyd yn rhoi llawer o foddhad i chi. Rydych chi'n maethu fel teulu, mae'n weithred gyfunol ac mae angen i'ch plant chi eich hun fod yn rhan o bob cam. Gwrandewch arnynt achos mae angen iddyn nhw fod ar y daith gyda chi."
Dywedodd y Cynghorydd Sandra Davies Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar Gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: "Mae gofal maeth fel rhan o dîm lleol y cyngor yn cynnig llawer o fuddion - o gymorth a hyfforddiant i ymwybyddiaeth o gymuned, ond yn fwyaf pwysig, byddwch chi'n rhoi'r cyfle i berson ifanc aros yn lleol yn ein sir.
"Fe wyddom, pan fydd plant yn cadw cysylltiad a'u hardal leol ac yn aros yn lleol gyda rhywun i'w cefnogi, y byddwn ni'n gweld gwell canlyniadau i'r plentyn hwnnw. Gallwch chi helpu i wneud gwahaniaeth."
"Os gawsoch chi eich ysbrydoli gan stori Hannah ac Ed, ac os hoffech chi ddarganfod sut all eich teulu ymuno â'n tîm cefnogol o ofalwyr maeth, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol."
Am ragor o wybodaeth am faethu gyda'r cyngor cysylltwch â chyswllt y cyngor Maethu Cymru Powys:
Ewch i:Powys.fosterwales.gov.uk
Ffoniwch:0800 22 30 627
E-bostiwch:fostering@powys.gov.uk