Cartref Plant Newydd
16 Chwefror 2024
Mae Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi dod ynghyd i greu cymorth ychwanegol ar gyfer plant a phobl ifanc lleol, sydd ag anawsterau emosiynol cymhleth ac anawsterau ymddygiadol.
Bydd y cartref, a ailwampiwyd yn llwyr, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig tîm neilltuol o staff therapiwtig a staff gofal i gefnogi pobl ifanc yn y sir.
Bydd yr ardal awyr agored hyfryd yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ofalu am a thrin a thrafod anifeiliaid bach, a thyfu ffrwythau, llysiau a blodau.
Bydd y cartref yn cynnig sefydlogrwydd er mwyn cefnogi plant a phobl ifanc sydd â'r anghenion mwyaf cymleth, i wireddu canlyniadau cadarnhaol a gwella eu llesiant.
Mae'r cartref newydd hwn yn ein galluogi i gefnogi rhagor o blant yn eu cymunedau eu hunain, gan alluogi plant i aros yn nes at eu cartrefi.