Deddf Galluedd Meddyliol a Rhyngwyneb y Ddeddf Iechyd Meddwl
Darperir gan: DCC Interactive
Cynulleidfa Darged: Timau Gwaith Cymdeithasol / Timau Plant 16+
Hyfforddiant ar-lein trwy Teams
Nodau
Nodau'r cwrs yma yw galluogi staff iechyd a gofal cymdeithasol i ystyried effaith Deddf Galluedd Meddyliol 2005 ar eu gwaith, a'r berthynas o ran defnyddio ac ymarfer Deddf Iechyd Meddwl 1983.
Deilliannau
- Defnyddio'r DGM mewn gwasanaethau iechyd meddwl - yn y gymuned, wrth dderbyn i ysbyty, yn yr ysbyty, ac adeg rhyddhau claf o'r ysbyty
- Derbyn claf i'r ysbyty - Cyfraith achos Siartr Hawliau Dynol Ewrop (EHCR) ac achosion AM a SLaM
- Deall - pa wybodaeth sydd ei hangen i dderbyn claf i'r ysbyty
- Defnyddio neu bwyso - arwyddocâd o ran iechyd meddwl a chyfraith achos
- Budd Pennaf - trosolwg a'r rhestr wirio
- Derbyn claf i ward iechyd meddwl - pa Ddeddf a pham? Arweiniad o ran cyfraith achos
- Arweiniad o ran y Cod Ymarfer - gwrthwynebu triniaeth neu dderbyniad (cymhwysedd ar gyfer Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS))
- Cludiant - symud pobl?
- Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid - safbwynt Ewropeaidd ac ymlaen
- Pam neu bryd i ddefnyddio DoLS mewn gwasanaethau iechyd meddwl - yn yr Ysbyty a'r gymuned.
Dyddiadau
- 3 Ebrill 2025, 9am - 4.30pm
- 25 Tachwedd 2025, 9am - 4.30pm
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses