Gwaith i ddechrau'n fuan ar brosiect Tŷ Brycheiniog gwerth £3.5m
23 Chwefror 2024
Defnyddiodd Cyngor Sir Powys yr arian i brynu'r hen ganolfan alwadau wag yn Uned 1b, Parc Menter Aberhonddu, ac i ariannu'r gwaith adnewyddu.
Bydd yn creu swyddfeydd i staff a phartneriaid y cyngor o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol eu defnyddio, mewn amgylchedd gwaith hyblyg, a fydd yn cael ei alw yn Tŷ Brycheiniog.
Bydd y symud felly yn rhyddhau safle datblygu y mae taer angen amdano yn Aberhonddu, yn swyddfeydd Neuadd Brycheiniog y cyngor ar Ffordd Cambrian.
Mae'r gwaith yn cael ei wneud ar gyfer Cyngor Sir Powys gan BBI Group (Beacons Business Interiors) a disgwylir iddo gael ei gwblhau tua diwedd 2024. Bydd y gwaith yn cynnwys:
- Adnewyddu'r ail lawr i greu gofod swyddfa i staff y cyngor.
- Ad-drefnu'r llawr cyntaf i ganiatáu ar gyfer amlfeddiannaeth gan wahanol asiantaethau.
- Gosod lifft pobl yno.
"Bydd y datblygiad hwn yn creu adeilad mwy ymarferol, cost-effeithiol i'r cyngor ei ddefnyddio," meddai'r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet y cyngor dros Bowys Fwy Ffyniannus, "a bydd yn ein helpu i gynnal perthynas waith gadarnhaol gyda'n partneriaid a fydd wedi'u lleoli ar yr un safle.
"Bydd hefyd yn ein helpu i leihau maint ein hôl troed carbon a chyflawni ein hymrwymiad i fod yn sero net o ran allyriadau carbon erbyn 2030."
Ychwanegodd Stephen Price, Cyfarwyddwr Gwerthiant BBI Group: "Rydym yn falch iawn ein bod wedi sicrhau'r contract hwn, sydd ar garreg ein drws yn Aberhonddu, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda'r cyngor ar y prosiect Codi'r Gwastad hwn.
"Mae eisoes wedi creu cyfle am swydd i brentis, ac mae dyn ifanc o Aberhonddu wedi ei gyflogi I'r swydd hon. Bydd myfyrwyr gwaith coed o Goleg Bannau Brycheiniog Grwp NPTC yn ymweld â ni ar y safle drwy gydol y prosiect i ennill gwell dealltwriaeth o'r broses adeiladu."
Bydd y gwaith adnewyddu yn golygu gosod lloriau di-garbon yn Nhŷ Brycheiniog a goleuadau LED gyda rheolaethau deallus, yn y rhannau o'r adeilad y bydd y cyngor yn eu defnyddio.
Sicrhawyd yr arian i gwblhau'r gwaith o gronfa Codi'r Gwastad y DU gan Dîm Datblygu Economaidd ac Adfywio Cyngor Sir Powys ac mae ei Dîm Eiddo Strategol yn rheoli'r gwaith adeiladu.
Am fwy o wybodaeth am gronfa Codi'r Gwastad ym Mhowys e-bostiwch: UKLUF@powys.gov.uk
I gael gwybod mwy am gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU, ewch i: https://levellingup.campaign.gov.uk/
LLUN: Uned 1b, Parc Menter Aberhonddu, sef darpar safle Tŷ Brycheiniog.