Bydd Wych. Ailgylcha. - Dewch inni gael Cymru i rif 1!
26 Chwefror 2024
Mae cost yn perthyn i wastraff bwyd
Er bod y rhan fwyaf ohonom yn gwybod mai i'r cadi bach pwrpasol mae gwastraff bwyd i fod i fynd, a bod arolwg gan WRAP wedi datgelu bod 90% yn cytuno na ddylai bwyd fyth fynd i'r bin sbwriel, y ffaith yw mai bwyd yw chwarter cynnwys ein biniau sbwriel o hyd. Gellid bod wedi bwyta 80% ohono, a gellid bod wedi ailgylchu'r gweddill (pethau na ellir eu bwyta fel crwyn bananas, plisg wyau) i greu ynni adnewyddadwy i bweru ein cartrefi!
Nid yn unig mae'r holl fwyd hwn na chafodd ei fwyta yn gyfanswm o 110,000 o dunelli o wastraff y flwyddyn - sy'n cyfateb i lond 3,300 o fysiau deulawr - mae hefyd yn costio £49 y mis i'r aelwyd gyfartalog. Ydi, mae'n wir - drwy frwydro gwastraff bwyd, rydych chi'n rhoi hwb i'ch poced yn ogystal â helpu'r blaned! A gyda 75% ohonom yn poeni am gostau byw ar hyn o bryd, mae'n sicr yn beth gwerth chweil i'w wneud.
"Er y bydd y rhan fwyaf o gartrefi Powys yn ailgylchu eitemau cyffredin megis papur a cherdyn, gwydr, poteli plastig a blychau, nid yw llawer yn ailgylchu eu gwastraff bwyd o hyd." Eglura'r Cyng. Jackie Charlton, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "A dweud y gwir, bwyd yw rhyw chwarter o gynnwys y biniau sbwriel cyffredin o hyd, a gellir ailgylchu hyn oll yn y blychau gwastraff bwyd yn rhwydd.
"Mae trigolion Powys yn gwneud gwaith gwych wrth ailgylchu, a dyna'r rheswm bod gennym raddfa ailgylchu benigamp o dros 68%, a gall pawb chwarae ei ran yn rhwydd gyda'r gwastraff bwyd a helpu trechu effeithiau newid hinsawdd yn uniongyrchol,"
Y newyddion da yw ei bod yn hawdd i chi wneud hyn gartref, hefyd. Rhowch her i chi'ch hun o wneud i'ch bwyd fynd ymhellach drwy:
- Ddefnyddio'r holl fwyd rydych chi'n ei brynu
- Ailgylchu'r pethau na ellir eu bwyta i greu ynni adnewyddadwy
Dyma sut mewn dau gam syml...
1. Gwella prydau bwyd gyda'r bwydydd sydd dros ben yn yr oergell
Dim ots pa mor ofalus rydyn ni'n cynllunio, weithiau mae pethau annisgwyl yn digwydd ac mae'n rhaid inni feddwl ar ein traed i sicrhau nad oes dim yn cael ei wastraffu. Meddyliwch am hyn fel her greadigol a'i ddefnyddio fel esgus i ddyrchafu eich prydau bwyd mewn chwinciad!
Er enghraifft, beth am wneud omled yn well fyth drwy ychwanegu cig a llysiau sydd angen eu defnyddio, neu greu tosti caws mwy epig fyth drwy ychwanegu'r olaf o'r sleisys ham? Mae ffrwythau goraeddfed yn ffordd wych o roi hwb i flas a gwerth maethol eich uwd, iogwrt a smwddis. Blasus, iachus, sydyn, arbed arian - dyna rysáit ddelfrydol!
2. Os na alli di ei fwyta fe, ailgylcha fe
Fe wyddom oll fod ailgylchu poteli plastig a jariau gwydr yn golygu y gellir eu troi'n becynnau newydd, ond wyddoch chi fod ailgylchu bwyd yn helpu i greu ynni adnewyddadwy?
Yma yng Nghymru, mae bron pob un o'r awdurdodau lleol yn ailgylchu gwastraff bwyd i greu ynni glanach, gwyrddach, ac yn 2023, fe wnaethom ailgylchu digon i bweru mwy na 10,000 o gartref!
Gallai dim ond un llond cadi o wastraff bwyd greu digon o ynni i bweru aelwyd am bron i awr, felly p'un ai'r bagiau te, crwyn bananas neu hyd yn oed fwydydd heibio'u dyddiad sydd wedi llwydo sydd dan sylw - dylai'r cwbl fynd i'r bin bwyd. Meddyliwch 'mae gwastraff bwyd yn golygu ynni' ac osgowch yr 'ych a fi' drwy...
- Ddefnyddio bag leinio cadi
- Ei wagio'n rheolaidd
- Osgoi hylifau
- Ei lanhau'n dda gyda hylif glanhau bob cwpl o wythnosau
Dilynwch y tips gwych hyn ac fe welwch fod ailgylchu eich gwastraff bwyd yn creu llai o arogleuon ac yn lanach na'i roi yn y bin, mewn gwirionedd. Bydd Wych - mae'n hawdd!