Canolfan Ailgylchu a Gwastraff Cartrefi Aberhonddu yn Ailagor ddydd Llun 11 Mawrth
29 Chwefror 2023
Mae uwchraddio diogelwch ac ailwampio'r ganolfan ailgylchu yn Ystâd Ddiwydiannol Ffrwdgrech yn cynnwys gosod arwyneb caled newydd a mwy diogel ar draws y safle, draenio wedi ei uwchraddio a gwell system un ffordd gyda mynediad sy'n haws ac ardal barcio mwy diogel.
Er nad yw llawer o'r gwelliannau i'r safle yn amlwg i ymwelwyr, maen nhw'n hanfodol i sicrhau fod y cyfleuster yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, yn gweithredu diogelwch, yn hawdd i ymwelwyr ei ddefnyddio, ac er mwyn sicrhau fod y safle yn parhau i fod yn ffit i'w ddefnyddio wrth symud ymlaen.
"Rydym ni'n falch fod yr uwchraddio diogelwch a'r ailwampio angenrheidiol ar fin gorffen bellach yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Aberhonddu, ac y gallwn ailagor y safle i'r cyhoedd ar 11 Mawrth" Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.
"Gwnaethon ni weithio'n agos â Grŵp Potter, sy'n rhedeg canolfannau ailgylchu'r cyngor, a'r contractwyr i sicrhau ein bod ni wedi dewis yr amser mwyaf tawel o'r flwyddyn i wneud y gwelliannau hyn. Fodd bynnag, ceir risg bob tro wrth gynllunio prosiect fel yr un hwn dros fisoedd y gaeaf yn sgil tymheredd oer a thywydd gwael yn amharu ar waith adeiladu. O ganlyniad gwnaeth yr ailwampio gymryd ychydig wythnosau'n hirach nag a gynlluniwyd yn wreiddiol ac rydym ni'n diolch i breswylwyr Aberhonddu a'r ardal amgylchynol am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth i ni weithio'n galed i gael y safle'n barod i'w ailagor cyn gynted ag y bo modd."
Bydd trefniadau ailgylchu gwastraff gardd yn hen safle Ysgol Uwchradd Aberhonddu, Penlan, oddi ar Ffordd Cerrigcochion yn dod i ben ar ôl dydd Mercher 6 Mawrth. O ddydd Llun 11 Mawrth, bydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Aberhonddu yn ailagor, fel gynt:
Dydd Llun: 9am - 5pm
Dydd Mawrth: 9am - 5pm
Dydd Mercher: 9am - 5pm
Dydd Iau: Ar gau
Dydd Gwener: Ar gau
Dydd Sadwrn: 10am - 4pm
Dydd Sul: 10am - 4pm
Bydd yr ardal newydd yn arbennig ar gyfer ail-ddefnyddio yn agor cyn bo hir. Cadwch lygad allan am ragor o fanylion yn fuan.